Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Ffynnon – system rheoli perfformiad ledled Cymru
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ffynnon – system rheoli perfformiad ledled Cymru

Meddalwedd a luniwyd ar lefel genedlaethol yw Ffynnon i ateb gofynion rheoli perfformiad awdurdodau lleol, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a'u partneriaid.

Llywodraeth y Cynulliad sy'n ariannu rhaglen Ffynnon yn llawn tan fis Rhagfyr 2012 ar gyfer awdurdodau lleol, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a'u partneriaethau strategol.

Yn wreiddiol, cynlluniwyd Ffynnon fel system feddalwedd wedi'i theilwra a oedd â'r gallu i reoli perfformiad, risgiau a phrosiectau ac a oedd yn ei gwneud yn bosibl rhannu gwybodaeth o fewn sefydliadau a rhyngddynt. Ers 2007 mae prosiect Ffynnon wedi'i ymestyn ymhell y tu hwnt i'r feddalwedd wreiddiol ac, erbyn hyn, mae'n cynnig ystod eang o adnoddau ymgynghori a chymorth i awdurdodau mewn perthynas â rheoli perfformiad, rheoli gwybodaeth a newidiadau busnes.

Ers 2009-10, mae rhaglen Ffynnon hefyd wedi rhoi cymorth ac adnoddau ymgynghori ar gyfer gweithredu a defnyddio'r system yn effeithiol er mwyn sicrhau a hyrwyddo safon gwasanaethau sy'n gyson uchel ac sy'n gwella i ddinasyddion a chymunedau.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ffynnonenquiries@wales.gsi.gov.uk