Gan ganolbwyntio i ddechrau ar saith maes gwaith, nod rhaglen a bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi Cymru yw trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu dylunio a'u cyflenwi.
Caffael a Chomisiynu Cydweithredol
Gweddnewid ymhellach y modd y mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn mynd ati i gaffael ac i gomisiynu nwyddau a gwasanaethau sy’n werth £4.3 biliwn y flwyddyn, gan adeiladu ar waith Gwerth Cymru ac eraill.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu y Gwasanaeth Cyhoeddus
Adeiladu ar botensial datblygiadau sy’n bodoli eisoes, megis rhaglen Band Eang y Gwasanaethau Cyhoeddus, er mwyn sefydlu seilwaith TGCh integredig ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod gwasanaethau o fewn cyrraedd mwy hwylus i ddinasyddion.
Rheoli Asedau
Defnyddio ystad y gwasanaethau cyhoeddus, sy’n werth biliynau lawer o bunnoedd, mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon er mwyn integreiddio’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau, gwella mynediad a sicrhau arbedion effeithlonrwydd.
Gweddnewid Prosesau Busnes
Mynd ati i fanteisio mwy ar ddulliau o weithredu ac ar dechnegau sefydledig er mwyn cael gwared ar wastraff a dileu biwrocratiaeth ddiangen.
Modelau Newydd ar gyfer Cyflenwi Gwasanaethau
Hyrwyddo’r broses o brif ffrydio arloesi llwyddiannus ac arferion da er mwyn cael mwy o effaith o lawer ac er mwyn annog arloesi pellach, yn enwedig o ran:
- cydgysylltu gwasanaethau ar sail anghenion dinasyddion, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion cymhleth
- y modd y mae dinasyddion yn helpu i gynllunio ac i gyflenwi gwasanaethau
- sicrhau bod ymyriadau’n canolbwyntio mwy ar atal yn hytrach nag ar wella.
Datblygu’r Gweithlu
Ceisio sicrhau rhagor o gydweithredu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus wrth fynd ati i gynllunio ac i ddatblygu’r gweithlu, gan ddod o hyd i atebion mwy cydgysylltiedig a llai biwrocrataidd er mwyn sicrhau bod gan y bobl hynny sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y sgiliau priodol, yn y lle priodol, ar yr adeg briodol.
Arweinyddiaeth
Adeiladu ar waith Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru ac eraill er mwyn canolbwyntio mewn modd mwy penodol ar wella sgiliau ac arbenigedd arweinwyr a rheolwyr er mwyn iddynt fedru arwain newid.
I ymrwymo i chwarae rôl amlwg mewn un neu fwy o'r meysydd hyn anfonwch e-bost at ymatebihernewid@cymru.gsi.gov.uk


