Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Fframwaith Gwella Perfformiad
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Fframwaith Gwella Perfformiad

Mae mwy a mwy a hunanasesu a hunanadolygu yn y modd mae byd llywodraeth leol Cymru yn ymwneud â materion gwella. Yn 2010, rhoes Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb am y rhan fwyaf o weithgareddau mesur perfformiad byd llywodraeth leol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn sgîl adolygu'r drefn gyfredol, mae fframwaith newydd ar gyfer gwella'r perfformiad ar waith er mis Ebrill 2011.

Mae'r fframwaith newydd yn canolbwyntio ar ddau faes:

  • Mesur atebolrwydd cyhoeddus – dulliau sy'n mesur sut mae sefydliadau'n atebol i'r cyhoedd. 
  • Data am wella gwasanaethau – llunio setiau o ddata ystyrlon y caiff gwasanaethau a'r cyrff sy'n eu rheoleiddio eu defnyddio ar gyfer gwella.

Mae'r atebolrwydd cyhoeddus yn cael ei fesur trwy ychydig o ddangosyddion sy'n ymwneud â deilliannau. Maen nhw wedi'u dewis o blith rhai'r hen fframwaith ac yn adlewyrchu agweddau mae'r awdurdodau lleol wedi cytuno eu bod yn bwysig o ran bod yn atebol i'r cyhoedd (megis ailgylchu, cyrhaeddiad addysgol, datblygu cynaladwy). Mae gofyn i baratoi'r wybodaeth honno ar gyfer y wlad i gyd, llunio adroddiadau amdani, ei dilysu a'i chyhoeddi bob blwyddyn.

Caiff gwasanaethau'r awdurdodau lleol, a'r cyrff sy'n eu rheoleiddio, ddefnyddio'r data am wella gwasanaethau wrth drefnu, cynnig a gwella gwasanaethau. Yn y set hon, mae'n bosibl y bydd maes o law ddata cyffredinol megis amcangyfrifon a rhagolygon am y boblogaeth, canrannau'r rhai sydd heb waith a data penodol am wasanaethau megis costau unedau, adnoddau a llif gwaith y gwasanaethau. Er mai'r awdurdodau lleol fydd yn diffinio'r set yn ôl angen a gwerth, fe fydd y data'n cael eu casglu'n ganolog a'u lledaenu ym myd llywodraeth leol i helpu'r gwasanaethau i wella.

Gweinidogion Cymru fydd yn pennu'r Dangosyddion Strategol Cenedlaethol o hyd. Mae gofyn statudol i bob awdurdod lleol gasglu gwybodaeth a chyflwyno adroddiadau am y rheiny. Mae canllawiau am y dangosyddion hynny ar wefan Llywodraeth Cymru.

Yn ystod 2011-12, bydd Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru yn cydweithio â'r awdurdodau lleol, rhwydweithiau arbenigol a chyrff rheoleiddio i ddatblygu a mireinio'r ffyrdd o fesur atebolrwydd cyhoeddus a'r data am wella gwasanaethau.