![]() |
Mae fersiwn diweddaraf y fframwaith yn ychwanegu at gryfderau’r fersiwn gwreiddiol a gafodd ei gyhoeddi yn 2008. Yn ogystal â chymryd y newidiadau yn y sector cyhoeddus i ystyriaeth ac adlewyrchu gofynion Deddf ‘Cydraddoldeb’ 2010, dyletswyddau penodol sector cyhoeddus Cymru ym maes cydraddoldeb a Mesur ‘Llywodraeth Leol’ Cymru 2009, mae’n annog awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar ddeilliannau fel y bydd pobl yn well eu byd.
Mae fersiwn 2011 Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru wedi’i baratoi ar y cyd â Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Carfan Materion Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau tân ac achub a swyddogion cydraddoldeb ledled byd llywodraeth leol.
Mae Fframwaith Gwella Cydraddolde Cymru yn:
- fframwaith rheoli cydraddoldeb ac yn ddull hunanasesu
- ffordd o hwyluso deilliannau sy’n hybu cyfleoedd cyfartal yng ngwasanaethau’r awdurdodau lleol

- cydblethu â threfniadau’r awdurdodau lleol ar gyfer Rhaglen Gwella Cymru;
- fframwaith sy’n cyd-fynd â’r trefniadau rheoli presennol gan annog pob awdurdod i fireinio a datblygu’r trefniadau hynny fel y bydd modd rheoli cydraddoldeb yn effeithiol a gwella drwy’r amser.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Naomi Alleyne



