Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr / Fframwaith Datblygu Cynghorwyr
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Fframwaith Datblygu Cynghorwyr

Beth yw Fframwaith Datblygu'r Cynghorwyr?

Mae'r fframwaith hwn yn amlinellu'r medrau a'r wybodaeth sy'n berthnasol i gynghorwyr fel y gallan nhw gyflawni eu gwahanol rolau ac yn awgrymu ffyrdd effeithiol o ymgymryd â'r rolau hynny. Nid rhestr gynhwysfawr a chyfarwyddol mo hon - y bwriad yw helpu cynghorwyr newydd a phrofiadol i nodi meysydd lle gallai fod angen cymorth arnyn nhw – boed ar ffurf gwybodaeth, hyfforddiant, gweithdai, hyfforddi personol/mentora neu gyfleon i ddysgu trwy wylio. Mae bwriad i'r fframwaith fod yn un hyblyg fel y gall cynghorwyr gydweithio â swyddogion i bennu'r dull mwyaf defnyddiol.

Ar gyfer pwy mae'r fframwaith?

Caiff pob cynghorydd ddefnyddio'r fframwaith - ar ei ben ei hun i nodi anghenion personol, fesul carfan i nodi beth allai fod o gymorth i bwyllgor neu gylch penodol, neu ar y cyd â'r swyddogion i flaenoriaethu anghenion datblygu a hyfforddi. Gallai'r fframwaith fod o gymorth i swyddogion cynorthwyo'r cynghorwyr a rheolwyr hyfforddi yn fan cychwyn dadansoddi anghenion hyfforddi (nodi anghenion datblygu pob cynghorydd neu garfan o gynghorwyr) neu baratoi cynllun datblygu personol i bob cynghorydd.

Rydyn ni'n diweddaru'r fframwaith yn rheolaidd ac mae linc â'r fersiwn diweddaraf (2011) isod.

Fframwaith Datblygu'r Cynghorwyr

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe