Beth yw datblygu cynaladwy?
Gallwn ni ddisgrifio datblygu cynaladwy'n 'ddatblygu sy'n diwallu anghenion presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw'.
Gallwn ni ddefnyddio datblygu cynaladwy i helpu cynghorau i hwyluso penderfyniadau a gwasanaethau gwell. Mae'n ymwneud â hybu lles a gwella byd pobl gan ystyried effeithiau'r camau rydyn ni'n eu cymryd ar genedlaethau'r dyfodol a diogelu a gwella'r amgylchedd a'r ardaloedd trefol trwy ddysgu i fyw yn ôl ffiniau amgylcheddol.
Cyhoeddiad: 'Fframwaith Datblygu Cynaladwy: Cyflwyniad'
Cyhoeddiad: 'Fframwaith Datblygu Cynaladwy: Taflen wybodaeth’
Pam mae datblygu cynaladwy'n bwysig i fyd llywodraeth leol?
Yn ôl Deddf 'Llywodraeth Leol' 2000, mae gofyn i bob cyngor 'hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ei fro a llunio strategaeth gymunedol fydd yn helpu i hwyluso datblygu cynaladwy yn y DG'. Mae lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn ymwneud â datblygu cynaladwy. Yn y bôn, dylai popeth mae cyngor yn ei wneud helpu i gynnal ei ardal a hwyluso datblygu cynaladwy yng Nghymru.
Dylai polisïau lleol cynaladwy ofalu bod:
- ffordd gyfannol o drin a thrafod prosesau trefnu a chynnig gwasanaethau'n cymryd elfennau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cynaladwyedd i ystyriaeth;
- tueddiadau'r dyfodol megis effeithiau newid hinsoddol yn cael eu hystyried a bod gofyn i gynllunio ar gyfer y tymor hir;
- effeithiau tu hwnt i'r ardal leol yn cael eu hystyried;
- pobl a chymunedau lleol yn cymryd rhan yn y broses benderfynu trwy drefniadau llywodraethu cyfranogol.
Mae datblygu cynaladwy wrth wraidd prosesau cynllunio Llywodraeth y Cynulliad yn barod a dylai fod wrth wraidd gweithgareddau'r sector cyhoeddus a byd llywodraeth leol i gyd, hefyd.
Beth mae Fframwaith Datblygu Cynaladwy WLGA yn ei gynnig?
Diben Fframwaith Datblygu Cynaladwy yw rhoi cyfarwyddyd ymarferol i'r awdurdodau lleol a'u gwasanaethau nhw ynglŷn â hwyluso datblygu cynaladwy. Y nod yw cyflwyno'r pwnc ar ffurf berthnasol a syml a dangos bod ei egwyddorion a'i ddeilliannau'n cyd-fynd â llywodraethu da. Mae'r fframwaith yn cynnig cymorth i bob awdurdod lleol a bwrdd gwasanaethau lleol yn ogystal â chyhoeddiadau, seminarau a'r deunydd isod sydd ar y we:
Modiwlau corfforaethol: Canllawiau am gymathu cynaladwyedd yn y brif ffrwd a gofalu bod swyddogaethau corfforaethol yn cyd-fynd â datblygu cynaladwy.
Modiwlau i'r gwasanaethau: Dangos beth yw datblygu cynaladwy i reolwyr gwasanaethau neu swyddogaethau penodol a sut gallan nhw ei ddefnyddio i gynnig gwasanaethau mwy cynaladwy, effeithiol a chydlynol.
Taflenni adnoddau: Cyfres o daflenni i helpu swyddogion polisïau i gasglu tystiolaeth a meithrin gallu ac amgyffred am nifer o faterion ynglŷn â chynaladwyedd.
Tueddiadau'r dyfodol: Mae sawl ffactor allanol megis newidiadau yn y boblogaeth a'r hinsawdd, diogelwch ynni a bwyd, ymfudo a thewdra fydd yn effeithio ar les ac ansawdd bywydau cymunedau yn y dyfodol. Bydd tueddiadau o'r fath yn effeithio'n fawr ar y modd mae awdurdodau'n rhoi gwasanaethau. Trwy Fframwaith Datblygu Cynaladwy WLGA, rydyn ni'n cynnig cymorth i nifer o awdurdodau lleol o ran adolygu prosesau trefnu a chynnig eu gwasanaethau yng ngoleuni effeithiau'r tueddiadau hynny arnyn nhw yn y dyfodol.
Mae'r gwaith ynglŷn â thueddiadau'r dyfodol yn cynnwys rheoli risgiau i'r gymuned hefyd, gan ystyried mewn cyd-destunau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y prif beryglon strategol (patrymau, tueddiadau a beth allai ddigwydd) fyddai naill ai'n amharu ar y gallu i gynnal cymunedau neu'n cynnig cyfleoedd i'w gryfhau. Rydyn ni'n cydweithio â rhai byrddau gwasanaethau lleol i'w helpu i asesu a rheoli'r peryglon hynny.
Cyhoeddiad: 'Tueddiadau'r dyfodol a chwilio'r gorwel'
Arferion da'r awdurdodau lleol
Un o nodau Fframwaith Datblygu Cynaladwy yw hyrwyddo a lledaenu'n gwaith ni. Mae sawl arfer da ym myd llywodraeth leol Cymru ynglŷn â datblygu cynaladwy. Mae WLGA am hybu arferion da yn y maes hwn ac yn rhoi tudalen ar y we i gadw'r wybodaeth honno. I gyflwyno arfer da, cysylltwch â: tim.peppin@wlga.gov.uk
Cyhoeddiad: Cynllun Busnes Datblygu Cynaladwy 2010-2011
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin


