Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Diogelwch yn y gymuned / Fforwm Diogelwch Cymunedol Cymru
 

Fforwm Diogelwch Cymunedol Cymru

Cafodd Fforwm Diogelwch Cymunedol Cymru ei sefydlu fis Hydref 2005 yn sgîl argymhellion Pwyllgor Materion Cymru yn ei Adroddiad am yr Heddlu, Troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Nghymru (Mawrth 2005). Diben y fforwm yw galluogi partneriaid allweddol i fynd i'r afael â materion diogelwch yn y gymuned ar lefel Cymru gyfan a rhoi cyfle i ledaenu dulliau arloesol a'r arferion gorau ledled y wlad.

Mae yn y fforwm gynrychiolwyr amrywiaeth helaeth o sefydliadau Cymru, gan gynnwys byd llywodraeth leol, Llywodraeth y Cynulliad, y Swyddfa Gartref, yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r Gwasanaeth Prawf.

Mr Steve Thomas, Prif Weithredwr WLGA, yw Cadeirydd Fforwm Diogelwch Cymunedol Cymru ar hyn o bryd. WLGA sy'n cyflawni gwaith ysgrifenyddol i'r fforwm, hefyd.

Bydd copïau o ffiniau gorchwyl y fforwm, ei aelodau ac agenda a chofnodion pob cyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen yma o wefan WLGA.

___________________________________________________________________________

Cyfarfodydd 2010

  • 4ydd Hydref 2010 - Pafiliwn WLGA (Maes y Sioe Frenhinol), Builth Wells

Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan