Mae’r Is-gylch Gwariant yn gyfrifol am drafod faint o arian sydd ei angen. Dyma’r prif fforwm ymgynghori rhwng y Cynulliad ac WLGA am y pwysau ariannol sydd ar gynghorau o ran refeniw a chyfalaf. Ystyrir sut y gall hyn effeithio ar gyflwyno gwasanaethau a thynnir sylw hefyd at gyfleoedd posibl i leihau’r pwysau yma.
Y Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid sy’n pennu ei gylch gorchwyl ac mae ei aelodau’n cynnwys swyddogion o isadran ariannol byd llywodraeth leol y Cynulliad ac WLGA gan gynnwys cyfarwyddwyr ariannol eraill o bob cwr o Gymru. Gwahoddir swyddogion o feysydd polisi eraill y Cynulliad, WLGA a chynghorau i ymuno â’r broses yn ôl y galw ar gyfer cyfarfodydd sy’n ystyried gwasanaethau penodol.
WLGA a LlCC sy’n paratoi adroddiad y fforwm ar y cyd. Yr adroddiad yma yw eu hasesiad terfynol o’r pwysau ariannol, y peryglon a’r cyfleoedd sy’n wynebu byd llywodraeth leol. Fe’i defnyddir yn bennaf fel tystiolaeth wrth drafod cyllideb y Cynulliad a dadlau achos byd llywodraeth leol gyda’r Gweinidog Cyllid.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas


