Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynllun Rhagoriaeth Cymru / Cynllun Rhagoriaeth Cymru 2010
 

Cynllun Rhagoriaeth Cymru 2010

Excellence Wales logoCyhoeddwyd rhestr fer Cynllun Rhagoriaeth Cymru heno yn ystod Cynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd yr achlysur gwobrwyo yn ystod cynhadledd am effeithlonrwydd ac ynni yn yr hydref.

Cyflwynodd yr awdurdodau lleol, awdurdodau heddlu, gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol dros 50 o geisiadau eleni yn ôl tair thema. Dyma'r rhai gyrhaeddodd y rhestr fer ym mhob thema:

Ein Cartrefi – cynnig tai fforddiadwy o safon

  • Cyngor Caerdydd
  • Cyngor Sir Gâr
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ein Cymunedau Cryf ac Iach – diogelu a gwella ansawdd a hyd bywydau

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cyngor Sir Gâr

Ein Gwasanaethau – cynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf ar gyfer dinasyddion

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Fframwaith asesu safonol a'r tîm dros faterion plant)
  • Cyngor Sir Ceredigion (Campws cyfun i blant)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Genesis Conwy)
  • Cyngor Sir y Fflint (Rhaglen ysgolion arbenigol)
  • Cyngor Gwynedd (Strategaeth gynilo a chynllun rheoli asedion)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Systems Thinking)
  • Cyngor Sir Powys (Prosiect gwaith rhieni)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trechu trais yn y cartref)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Gwasanaeth safonau bwyd)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Rheoli gwastraff ac ariannu cyfleuster trwy fenter arian preifat)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (Cydraddoldeb i bawb)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin (Mentrau RaFT)

Ar ben hynny, dyma nifer o brosiectau lle mae awdurdodau'n cydweithio'n agos â chyrff cyhoeddus eraill, cwmnïau preifat a mudiadau gwirfoddol i gynnig gwasanaethau ar y cyd:

  • Ffair ariannu ranbarthol (Cyngor Sir Gâr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro, Dinas a Sir Abertawe)
    Goleuo'r strydoedd (Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Powys, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
  • Cydweithredfa Gwella'r De-ddwyrain (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, Cyngor Bro Morgannwg)
  • Cyfuno gwasanaethau offer cymunedol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Ymddiriedolaeth Cwm Taf y GIG)
  • Rhannu gwasanaethau cyfreithiol (Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro)
  • Gwasanaethau cynllunio (Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro)
  • Prynu offer diogelu personol (pob gwasanaeth tân ac achub)
  • Llywodraethu yn yr awdurdodau heddlu (Awdurdodau Heddlu Cymru)

Mae'r cynghorau a chyrff eraill byd llywodraeth leol yn cynnig cannoedd o wasanaethau rydyn ni'n eu gweld ac yn eu defnyddio bob dydd. Hanfod Cynllun Rhagoriaeth Cymru yw cydnabod a hyrwyddo arferion da yn y gwasanaethau hynny. Diben arall y cynllun, fodd bynnag, yw lledaenu arferion o'r fath a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Bydd cyfres o seminarau cyfnewid dysg ac ymweliadau â sefydliadau'n ychwanegu at y cymorth sydd ar gael i ledaenu arferion da ymhlith staff y gwasanaethau cyhoeddus.

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jenna Redfern

Cyhoeddiadau perthynol