Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Llywodraeth leol yng Nghymru / Ewrop
 

Ewrop

Mae dylanwad Undeb Ewrop ar weithgarwch byd llywodraeth leol yn cynyddu. Mae swyddogaeth bwysig i’r awdurdodau lleol ynglŷn â gofalu bod yr undeb o les i ddinasyddion Cymru. Mae nifer o resymau pam mae Undeb Ewrop yn bwysig i fyd llywodraeth leol – dyma rai ohonyn nhw:

  • Mae’r awdurdodau lleol yn cael gwella ansawdd mentrau Undeb Ewrop trwy nodi ffyrdd o’u gwneud nhw’n fwy ymarferol. 
  • Mae arian Undeb Ewrop - boed trwy’r cronfeydd strwythurol neu raglenni eraill - yn un o adnoddau pwysicaf yr awdurdodau lleol. 
  • Mae rhyw 70% o ddeddfau’r DG sy’n berthnasol i’r awdurdodau lleol yn tarddu o Undeb Ewrop.

Mae’r cynghorwyr yn gyfrifol am ddefnyddio adnoddau cyhoeddus mewn modd gofalus a theg ar ran yr etholwyr, gan ofalu eu bod nhw’n cynrychioli’r etholwyr hynny yn briodol ac yn rhoi gwasanaeth y gallan nhw ddibynnu arno bob dydd. Nid cynrychioli’r rhai a’u hetholodd yn unig yw swyddogaeth y cynghorwyr, fodd bynnag. Mae gofyn statudol iddyn nhw oruchwylio dull rheoli’r gorfforaeth, sef y cyngor, a gofalu ei fod yn amlygu safonau uchaf llywodraethu, gwarchod a chyflawni cyfundrefnol er lles y cyhoedd

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym