Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol i sicrhau fod yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn darparu manteision ymarferol ar gyfer dinasyddion Cymru. Mae’r UE yn effeithio ar bob unigolyn, teulu, busnes a sefydliad yng Nghymru. Mae hyd at 70% o gyfraith ddomestig yn tarddu o ddeddfwriaeth yr UE, sydd yn ei gwneud hi’n hanfodol i ddylanwadu ar y camau cyntaf ym Mrwsel pan fo’r Comisiwn Ewropeaidd yn gwneud cynigion newydd neu yn addasu cyfreithiau sydd eisoes yn bodoli ac yn creu goblygiadau i awdurdodau lleol.
Ers Ebrill 2003, mae Swyddfa Ewropeaidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), a leolir yn Nhy Cymru gyda Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Swyddfa Brwsel Addysg Uwch Cymru, yn darparu adnoddau penodol ar gyfer WLGA a’r awdurdodau sydd yn aelodau ar faterion Ewropeaidd ac yn hyrwyddo rôl llywodraeth leol Cymru mewn materion Ewropeaidd.
Gan fod Brwsel yn darddiad ar gyfer niferoedd helaeth o ddeddfwriaethau, polisi a chyfleoedd ariannu, mae’r Swyddfa yn ceisio darparu gwybodaeth gywir, ar amser i’w haelodau. Mae’r Swyddfa yn cefnogi partneriaethau rhwng llywodraeth leol Cymru a chynrychiolaethau eraill in Ewrop ac yn dadlau dros benderfyniadau polisi a deddfwriaethol sydd yn ateb anghenion cymunedau a dinasyddion lleol yng Nghymru.
Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn:
• Rhoi cyngor strategol am raglenni a blaenoriaethau Ewropeaidd yn y dyfodol;
• Hyrwyddo a lobïo polisi ar y sefydliadau Ewropeaidd a’r hoelion wyth allweddol;
• Cydweithio’n agos â chynrychiolwyr eraill o Gymru megis Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Swyddfa Addysg Uwch Cymru ac ASEau Cymru yn Senedd Ewrop ar faterion cyffredin;
• Rhoi gwybodaeth am gynlluniau ariannu, casglu gwybodaeth am ddeddfwriaeth a’r broses pennu polisïau;
• Cefnogi gwaith partneriaeth ar draws llywodraeth leol Ewropeaidd gan gynnwys trefnu ymweliadau dirprwyaethau ac ymchwilio ar gyfer awdurdodau lleol Cymru;
• Cynorthwyo aelodau awdurdodau lleol Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau a Chyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol yng Nghyngor Ewrop;
• Gweithio gyda swyddfeydd Brwsel sydd yn cynrychioli cymdeithasau llywodraeth leol cenedlaethol eraill ar faterion cyffredin, yn arbennig drwy gyfrwng Cyngor Bwrdeistrefi a Rhanbarthau Ewropeaidd (CEMR) a’r Rhwydwaith Awdurdodau Lleol Ewropeaidd (ELAN).
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


