08 Mehefin 2011
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ar gyfer darparu gweithgareddau ymyrraeth Plant a Phobl Ifanc. Bydd y gweithgareddau hyn yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn iach, i aros yn ddiogel, i fwynhau a chyflawni, i wneud cyfraniad cadarnhaol a sicrhau lles economaidd, gan roi sylw dyledus i faterion sy’n gysylltiedig ag ethnigrwydd, anabledd a rhyw.


