Carfan Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw’r brif asiantaeth sy’n helpu byd llywodraeth leol Cymru i drin a thrafod materion cydraddoldeb. Yn rhan o’i gwaith, gofynnodd y Gymdeithas ddechrau 2011 i ymgynghorwyr ddadansoddi pa hyfforddiant y byddai ei angen ar awdurdodau lleol Cymru a byd llywodraeth leol i gyd yn sgîl Deddf ‘Cydraddoldeb’ 2010, a nodi a fyddai angen unrhyw gymorth cysylltiedig. Bu’r ymchwil yn ymwneud â hyn a hyn o awdurdodau lleol, heddlu, tân/achub a pharc cenedlaethol (cyfanswm o 13) yn ystod misoedd Awst a Medi 2011. Mae’r adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, isod:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Morgan


