Effeithlonrwydd yw ‘gweithio mewn modd cynhyrchiol gan wastraffu cyn lleied o ymdrech neu arian ag sy’n bosibl'. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol Cymru wedi gweithio’n galed i gynyddu eu heffeithlonrwydd drwy newid eu dull o reoli gwasanaethau, caffael nwyddau a threfnu eu sefydliadau. O ganlyniad i hyn, mae llywodraeth leol wedi llwyddo’n gyson i ragori ar y targedau effeithlonrwydd a osodwyd ar ei chyfer gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan faner Creu’r Cysylltiadau. Ceir consensws y bydd angen sicrhau arbedion effeithlonrwydd pellach yn yr amgylchedd ariannol newydd. Ar gyfer llawer o’r mesurau effeithlonni nesaf, bydd gofyn gwneud penderfyniadau anodd ar raddfa leol a chenedlaethol. Byddant hefyd yn fwy cymhleth, yn cymryd mwy o amser i’w gweithredu, ac yn gofyn am fwy o fuddsoddi ymlaen llaw na’r mesurau y llwyddwyd i’w cyflawni hyd yma.
Mae WLGA yn gweithio gydag awdurdodau mewn amryw o wahanol ffyrdd i hyrwyddo effeithlonrwydd.
Ar raddfa genedlaethol mae WLGA wedi datblygu Her Effeithlonrwydd Cymru sy’n cipio perfformiad Cynghorau mewn nifer o wahanol feysydd gwasanaeth rheng flaen a chefn swyddfa. Mae’r Her Effeithlonrwydd yn unigryw gan ei fod yn rhoi gwybodaeth meincnodi fanwl i’r awdurdod. Y ffordd orau o ddisgrifio’r her yw proses o gydweithio i nodi mesurau effeithlonni pellach drwy:
gasglu metrigau cost a pherfformiad
- cymharu metrigau
- herio arferion presennol
- cynnal gweithdai i reolwyr
- darparu arbenigedd, cefnogaeth a momentwm i awdurdodau
- nodi arferion blaenllaw
Yn rhanbarthol, mae’r Byrddau Rhanbarthol yn cefnogi llond gwlad o raglenni effeithlonrwydd amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- ymarferion caffael ar y cyd (datrysiadau gwastraff rhanbarthol)
- comisiynu cydweithredol (adnodd Comisiynu ar gyfer Plant)
- cyflenwi gwasanaethau ar y cyd (Grŵp Cydweithio Gogledd Cymru ar gyfer Parcio wedi’i Ddad-droseddoli)
- rhannu swyddi (Pennaeth Priffyrdd)
- rhannu gwasanaethau (rhannu gwasanaethau proffesiynol yng nghanolbarth Cymru a rhannu AD / cyflogres / hyfforddiant yn ne ddwyrain Cymru
Ewch i dudalen we’r Bwrdd Rhanbarthol am enghreifftiau pellach o’r gwaith sydd wedi’i gyflawni.
Ar raddfa leol mae WLGA wedi datblygu Adolygiad Ariannol gan Gymheiriaid er mwyn gweithio gyda Chynghorau i werthuso i ba raddau y maent yn:
- llwyddo i nodi, lliniaru a rheoli risgiau a chyfleoedd ariannol
- llwyddo i sicrhau gwerth am arian drwy reoli cyllid yn effeithiol ac effeithlon
- llwyddo i gynllunio ar gyfer yr heriau ariannol o’u blaen
- barod i arwain a gweithredu proses o weddnewid
Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas


