Sefydlodd Llywodraeth y Cynulliad Fwrdd Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi ddechrau 2010. Diben y bwrdd yw rhoi arweiniad a phennu camau priodol trwy raglen effeithlonrwydd ac arloesi fydd yn canolbwyntio ar hwyluso arbedion a gwelliannau yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Bydd y bwrdd yn cwrdd bob 6-8 wythnos dan arweiniad y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, Jane Hutt AC. Ymhlith aelodau'r bwrdd mae cynrychiolwyr amrywiaeth o wasanaethau a sectorau gan gynnwys Llefarydd WLGA dros Faterion Gwella, y Cyng. Russell Roberts, a Phrif Weithredwr WLGA, Steve Thomas. Bydd cynrychiolwyr WLGA yn gofalu bod y gwaith yn cydblethu â'r hyn mae Bwrdd Gwella WLGA yn ei wneud.
Mae byd llywodraeth leol wedi ymrwymo i helpu'r bwrdd a mynd â'r maen i'r wal o ran arloesi a gwella. Cynrychiolwyr o fyd llywodraeth leol sy'n llywio 6 o'r 7 ffrwd waith a bydd Gwasanaethau Gwella WLGA yn gweithio yn ôl y blaenoriaethau ac yn rhoi cymorth ar gyfer prosiectau newydd.
Ffrydiau gwaith
- Caffael a chomisiynu cydweithredol
- Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu'r gwasanaethau cyhoeddus
- Rheoli asedau
- Gweddnewid prosesau busnes
- Modelau newydd ar gyfer cyflenwi gwasanaethau
- Datblygu'r gweithlu
- Arweinyddiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen neu gymryd rhan yn y ffrydiau gwaith, anfonwch neges at meetingthechallengeofchange@wales.gsi.gov.uk
Linc â Bwletinau Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Llywodraeth y Cynulliad)


