Fe ddaw'r rhan fwyaf o gyllid byd llywodraeth leol trwy'r grant cyffredinol mae Llywodraeth Cymruyn ei roi iddo bob blwyddyn. At hynny, mae grantiau eraill ar gyfer gwasanaethau penodol. Mae modd ychwanegu at yr incwm ym mhob bro trwy dreth y cyngor.
Dyna'r cyd-destun ynghylch ariannu gwasanaethau addysg ac ysgolion yr awdurdodau lleol. Daw'r arian craidd ar gyfer addysg i'r rhai o dan 16 oed trwy'r grant cyffredinol ac mae grantiau penodol ar gyfer addysg/hyfforddiant y rhai dros 16 oed, amryw strategaethau gwladol a rhai mentrau eraill. Daw tua 11% o'r arian ar gyfer addysg trwy'r grantiau penodol.
- Roedd £2,462 miliwn wedi'u neilltuo i'w gwario ar ysgolion Cymru yn 2010/11 (gan gynnwys y grantiau penodol)
- £5,418 oedd y gwariant ar ddisgyblion yn ôl y pen yn 2010/11, o'i gymharu â £5,956 yn Lloegr
Bydd yr awdurdodau lleol yn rhoi arian i bob ysgol o'r gyllideb gyffredinol yn ôl fformiwla dyrannu. Ar gyfartaledd, byddan nhw'n rhoi 75% o'r gyllideb i gyd i'r ysgolion. Bydd pob awdurdod lleol yn cadw peth arian fel y gall roi gwasanaethau megis prydau, cludiant, anghenion addysgol arbennig a chymorth cwrícwlaidd i'r ysgolion yn ogystal â chyflawni swyddogaethau megis cyflogresi ac adnoddau dynol ar eu cyfer.
Mae'r wybodaeth ystadegol sydd ar y dudalen hon wedi'i rhoi gan Ystadegau Cymru
Mae rhagor o wybodaeth gan: Mari Thomas


