Mae rôl bwysig i fyd llywodraeth leol ynglŷn â hybu cydraddoldeb, ac mae rôl i bob adran a gwasanaeth yn hynny o beth. Mae gorchwyl adran addysg yn arbennig o gymhleth achos y bydd yn helpu i baratoi cynlluniau corfforaethol ar gyfer cydraddoldeb yn ogystal â helpu pob ysgol i baratoi ei chynllun strategol ei hun yn y maes hwnnw. Fel yr awdurdodau lleol, rhaid i ysgolion gydymffurfio â dyletswyddau Deddf ‘Cydraddoldeb’ 2010 ar gyfer y sector gwladol trwy roi ystyriaeth briodol i’r canlynol:
- Cael gwared ar aflonyddu, anffafrio anghyfreithlon, erlid a phob math arall o ymddygiad mae’r ddeddf yn ei wahardd.
- Hybu cyfleoedd cyfartal rhwng y rhai ac iddyn nhw nodwedd i’w diogelu a’r rhai sydd heb y nodwedd honno.
- Meithrin perthynas dda rhwng y rhai ac iddyn nhw nodwedd i’w diogelu a’r rhai sydd heb y nodwedd honno.
Mae tystiolaeth am anghydraddoldeb ym maes addysg ar gael trwy amryw ffynonellau. Mae’r ysgolion a’r awdurdodau lleol wedi bod yn ceisio cau’r bwlch rhwng cyrhaeddiad merched a bechgyn ers tro, ac mae gwaith yn mynd yn ei flaen i gau bylchau tebyg rhwng disgyblion anabl a’r rhai sydd heb anableddau, a rhwng disgyblion o rai trasau lleiafrifol a disgyblion eraill. Mae bwlio o achos nodweddion yn enghraifft da o bryder parhaus sy’n cael ei leddfu mewn ffyrdd arloesol bellach.
Dyma ganllawiau WLGA ar gyfer ysgolion ac adrannau addysg. Does dim angen eu darllen nhw i gyd yn syth. Eu diben yw rhoi deunydd perthnasol a gwybodaeth ategol wrth baratoi cynlluniau ac asesu cynigion.
-
Papur hysbysu am Ddyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru: Addysg a’r ysgolion
-
Materion cydraddoldeb ym maes addysg: Adnodd i helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i baratoi cynlluniau strategol ac amcanion ar gyfer cydraddoldeb
-
Risgiau, ynglŷn â chydraddoldeb, sy’n gyffredin i bawb ym maes addysg: Adnodd asesu effeithiau ar gydraddoldeb yn yr ysgolion a’r awdurdodau lleol
Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Morgan


