Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Adnoddau / E-lywodraethu yng Nghymru
 

E-lywodraethu yng Nghymru

Mae e-lywodraethu'n cwmpasu mwy na thechnoleg a gwasanaethau technegol. Mae'n ymwneud â defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i roi gwell gwasanaethau cyhoeddus ar gael i bawb yn ôl anghenion y dinasyddion a'r cwsmeriaid. I'r perwyl hwnnw, efallai y bydd angen gwneud pethau mewn ffyrdd cwbl wahanol a newydd. Mae gwasanaethau i'w darparu ar ffurfiau newydd yn ôl anghenion y dinasyddion, bydd y rhai sy'n gyfrifol amdanyn nhw yn fwy atebol, a bydd dinasyddion a chymunedau'n cael dylanwadu'n fwy arnyn nhw. Mae'r syniad o e-lywodraethu'n rhan annatod o raglen foderneiddio byd llywodraeth leol a'i ymdrech i roi gwasanaethau lleol yn fwy effeithlon.

I hwyluso'r newid hwnnw, mae rhaid i gynghorwyr a staff pob awdurdod ymrwymo i'r syniad. Bydd yn ymrwymiad nid yn unig i wireddu'r delfryd eang o e-gyngor ond, hefyd, i gymryd y camau ymarferol y bydd eu hangen. Rhaid llunio strategaeth eglur yn gyntaf. Wedyn, rhaid mynd i'r afael â pholisïau a materion caffael a thechnegol y strategaeth honno. Bydd angen datblygu partneriaethau yn ogystal â meithrin meddylfryd arloesol a'r awydd i ddysgu yn y cyngor.

Mae'r Cynulliad a byd llywodraeth leol Cymru wedi ymrwymo ar y cyd i roi ar waith strategaeth ar gyfer darparu gwasanaethau yn well yn ôl materion a blaenoriaethau lleol trwy dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu. O wneud hynny, bydd modd pennu themâu a blaenoriaethau safonol ledled Cymru a datblygu targedau lleol a gwladol ar gyfer y dyfodol. Bydd llawer o'r hyn fydd yn digwydd ym maes e-lywodraethu yn hwyluso'r arbedion a gafodd eu nodi yn Creu'r Cysylltiadau. Bydd arbenigwyr megis SOCITM yn cyfrannu i'r drafodaeth, hefyd, trwy gyfrwng eu E-freinlen.

Wrth roi'r strategaeth ar waith, rhaid i bob cyngor fynd i'r afael â materion allweddol megis meithrin medrau arwain, newid y meddylfryd, diweddaru hen feddalwedd a datblygu partneriaethau i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg newydd.

O ran gweithio ar y cyd, mae byd llywodraeth leol wedi ymuno â rhannau eraill o sector cyhoeddus Cymru yn y fenter mae'r Cynulliad yn ei harwain ar gyfer band eang. Cafodd y prosiect ei sefydlu i ddatblygu a chynnal isadeiledd cyfathrebu band eang i hwyluso arbedion effeithlonrwydd o ganlyniad i gyfuno a rheoli galw'r sector cyhoeddus, ynghyd â rhoi ar gael rwydwaith gweithredol sy'n gallu hwyluso gwaith rhwng cyrff a sectorau a rhannu gwybodaeth electronig.

Cyhoeddodd y Cynulliad ei gynllun gweithredu a ddeilliodd o Creu'r Cysylltiadau, sef Darparu'r Cysylltiadau: Gwireddu'r Weledigaeth, sy'n canolbwyntio ar y materion allweddol o ran datblygu trwy sôn yn benodol am y posibiliadau ynghylch gwybodaeth electronig, sustemau talu a phrynu, cardiau craff a band eang.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Paul Charkiw