Rydych chi yma: Hafan / Bod yn gynghorydd 2012 / Disgwyliadau’r cynghorwyr
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Disgwyliadau’r cynghorwyr

Be a Councillor 2Cyflwyniad

Dyddiau cynnar

Cynrychioli eich ward (neu adran etholiadol) a’r cyngor

Arwain y gymuned a chydweithio

Hanfodion arweiniad cymunedol effeithiol

Atebolrwydd gwleidyddol

Safonau ymddygiad

 

Mae pobl yn disgwyl llawer gan gynghorwyr. Mae’n waith cyfrifol sy’n cymryd llawer o’ch amser ond mae hefyd yn wobrwyol dros ben. Fel aelod etholedig, bydd angen i chi ddal dau ben llinyn ynghyd o ran gweithio yn eich cymuned a’ch cyngor fel cynghorydd yn ogystal â gwneud eich swydd ‘arferol’ os ydych yn gweithio.

Cyn ystyried bod yn gynghorydd, gallech drafod y peth gyda’ch teulu a’ch cyfeillion yn gyntaf fel eu bod yn deall y bydd angen eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth arnoch chi. Mae’n bosib y byddwch yn treulio cryn dipyn o’ch amser rhydd yn trin a thrafod gwaith y cyngor.

Ar gyfartaledd, amcangyfrifir bod cynghorwyr yn treulio gwerth tri diwrnod yr wythnos yn ymwneud â gwaith y cyngor. Mae llawer o gyflogwyr yn cydnabod gwerth gwaith cynghorwyr. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r medrau y byddwch yn eu hennill yn y rôl ac yn cynnig amser neu hyblygrwydd i chi gyflawni eich dyletswyddau.

Mae rhai wedi cymharu’r diwrnod cyntaf ar ôl cael eich ethol yn gynghorydd â’r ‘diwrnod cyntaf mewn ysgol newydd. Hwyrach na fyddwch yn gwybod pwy yw pwy, ble mae angen i chi fynd na beth ydych i fod i’w wneud’. Mae digonedd o gymorth a chyngor ar gael gan swyddogion, cynghorwyr profiadol eraill, eich cylch gwleidyddol a chyrff cenedlaethol.

Ar ôl eich ethol, chi fydd llais eich cymuned neu eich etholaeth (mae nifer o gynghorwyr yn ei galw’n ‘ward). Byddwch hefyd yn cynrychioli unigolion, busnesau a hyd yn oed y rhai na wnaeth bleidleisio i chi. Gweithgareddau lleol fel cynnal cymorthfeydd rheolaidd a chynorthwyo pobl leol gyda’u cwynion neu eu problemau yw’r meysydd pwysicaf o’ch gwaith fel cynghorydd yn nhyb y trigolion.

Bydd angen i chi siarad gyda’r gymuned a deall eu hanghenion a’u teimladau i’r dim. Nid oes modd cynorthwyo pawb ond bydd angen i chi egluro eich penderfyniadau yn gwbl agored a gofalu bod barn y trigolion yn cael ei chlywed – chi yw eu llais yn y cyngor.

Bydd angen i chi hefyd egluro polisïau a safbwyntiau’r cyngor a gofalu bod y gymuned yn deall y rhesymau dros rai penderfyniadau. Mae bod yn gynghorydd yn fraint ac yn wobrwyol ond mae angen ymroddiad, amynedd a chryfder a gall fod yn waith anodd dros ben.

Dyddiau cynnar

Mae un cynghorydd wedi disgrifio cael eich ethol am y tro cyntaf ‘fel y diwrnod cyntaf mewn ysgol newydd. Hwyrach na fyddwch yn gwybod pwy yw pwy, ble mae angen i chi fynd na beth ydych i fod i’w wneud’. Mae digonedd o gymorth a chyngor ar gael gan swyddogion, cynghorwyr profiadol eraill, eich cylch gwleidyddol a chyrff cenedlaethol.

Dyma rai o’ch blaenoriaethau cyntaf:

  • llofnodi eich datganiad o dderbyn y swydd 
  • cael gwybodaeth am y côd ymddygiad a’i ddeall cyn ei lofnodi 
  • datgan unrhyw fuddiannau a chysylltiadau sydd gennych 
  • cael gwybodaeth am sut mae cyfansoddiad y cyngor yn gweithio 
  • deall y rheoliadau a’r gweithdrefnau ynghylch lwfansau a threuliau 
  • deall pwy yw pwy yn y cynghor a chael eich cyflwyno iddyn nhw 
  • cael gafael ar ddisgrifiad o’ch rôl a chael y cyfle i’w drafod. Cewch ddisgrifiadau enghreifftiol o rolau cynghorwyr ar wefan WLGA http://www.wlga.gov.uk/english/member-role-descriptions/
    http://www.wlga.gov.uk/cymraeg/member-role-descriptions/ 
  • cymryd rhan yn rhaglen sefydlu cynghorwyr newydd a gofalu bod swyddogion yn gwybod pa hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen arnoch chi 
  • cael cyfrifiadur ac offer a chael rhywun i’w gosod (os oes modd) 
  • trefnu gwaith eich ward a’ch system ‘swyddfa’ gartref 
  • holi pa gymorth sydd ar gael e.e. gofal plant 
  • cael mentor i’ch ‘rhoi ar ben ffordd’ os oes angen un arnoch chi 
  • cael eich penodi ar gyfer gwahanol bwyllgorau yn y cyngor

Cynrychioli eich ward (neu adran etholiadol) a’r cyngor

Ar ôl eich ethol, chi fydd llais eich cymuned neu eich etholaeth (mae nifer o gynghorwyr yn parhau i’w galw’n ‘ward’). Byddwch hefyd yn cynrychioli unigolion, busnesau a hyd yn oed y rhai na wnaeth bleidleisio i chi. Gweithgareddau lleol fel cynnal cymorthfeydd rheolaidd a chynorthwyo pobl leol gyda’u cwynion neu eu problemau yw’r meysydd pwysicaf o’ch gwaith fel cynghorydd yn nhyb y trigolion. Bydd angen i chi siarad gyda’r gymuned a deall eu hanghenion a’u teimladau i’r dim. Nid oes modd cynorthwyo pawb ond bydd angen i chi egluro eich penderfyniadau yn gwbl agored a gofalu bod barn y trigolion yn cael ei chlywed – chi yw eu llais yn y cyngor. Bydd angen i chi hefyd egluro polisïau a safbwyntiau’r cyngor a gofalu bod y gymuned yn deall y rhesymau dros rai penderfyniadau. Mae bod yn gynghorydd yn fraint ac yn wobrwyol ond mae angen ymroddiad, amynedd a chryfder a gall fod yn waith anodd dros ben.

I reoli eich gwaith fel cynghorydd, dylech:

  • Gynnal cymorthfeydd – yn rheolaidd ac yn aml. Hysbysebwch y rhain ymlaen llaw a’u cynnal mewn mannau hwylus ar adegau cyfleus 
  • Anfonwch gylchlythyrau a chofiwch ymateb i alwadau ffôn, negeseuon e-bost a llythyrau bob amser 
  • Ystyriwch sut y gallech ddefnyddio cyfryngau fel rhwydweithio cymdeithasol, blogiau a Twitter i dynnu sylw ac ymgysylltu â’r gymuned 
  • Rhwydwaith – ymgyfarwyddwch â’ch ardal, cylchoedd cymunedol, asiantaethau ac ati, a byddwch yn amlwg 
  • Defnyddiwch gyfryngau lleol – beth yw’r ffordd orau o gyfleu eich neges? Cymerwch ofal os ydych yn aelod o blaid wleidyddol rhag ofn bod canllawiau ganddyn nhw am bwy sy’n siarad gyda’r cyfryngau.

Arwain y gymuned a chydweithio

Mae’n gyfrifoldeb statudol ar bob cyngor i roi gweledigaeth i’r ardal, cydweithio i gyflawni’r weledigaeth honno a rhoi gwasanaethau o safon i bawb.

Nid gwasanaethau’r cyngor yn unig sydd dan sylw – mae’n ymwneud â’r holl wasanaethau cyhoeddus lleol a chanfod y ffordd fwyaf effeithiol o’u cyflwyno i fodloni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd. Bydd angen i chi feithrin cysylltiadau agos â phobl a chyrff pwysig eraill yr ardal fel yr heddlu, byrddau iechyd lleol, y sectorau gwirfoddol a busnesau er lles y gymuned gyfan. Ceisiwch ddeall beth yw’r nod yn y pen draw, yn ogystal â rôl bosibl y partneriaid er mwyn ei gyflawni.

Hanfodion arweiniad cymunedol effeithiol

  • gwrando ar gymunedau lleol a’u cynnwys 
  • creu gweledigaeth a rhoi cyfeiriad 
  • cydweithio â phartneriaethau’n effeithiol 
  • cymryd camau 
  • galluogi cymunedau lleol 
  • defnyddio adnoddau cymunedol yn effeithiol

Atebolrwydd gwleidyddol

Mae penderfyniadau cynghorwyr, boed yn unigol neu ar y cyd, o ddiddordeb i etholwyr. Byddwch yn atebol am yr addewidion yn eich maniffesto a dylech allu ateb ar sail penderfyniadau eich plaid gwleidyddol.

Os ydych yn un o’r gwrthbleidiau, byddwch yn bwrw golwg ac yn cwestiynu penderfynuadau’r cylch rheoli ac yn cynnig polisïau amgen. Yn ôl pob tebyg, bydd gan eich cylch gwleidyddol (os ydych yn aelod o gylch) safbwyntiau gwahanol sydd wedi hen ennill eu plwyf am waith y cyngor.

Safonau ymddygiad

Bydd gan eich cyngor gôd ymddygiad. Mae’n seiliedig ar gôd enghreifftiol a ategir gan ganbllawiau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r côd yn seiliedig ar saith egwyddor bywyd cyhoeddus a grewyd gan y Pwyllgor Safonau ym Mywyd Cyhoeddus (Pwyllgor Nolan). Dyma sut y diffiniwyd y rhain mewn offeryn statudol:

1. Rhoi pobl eraill yn gyntaf

Lles y cyhoedd sydd bwysicaf. Ni ddylech fyth elwa ar eich rôl mewn modd amhriodol na chynorthwyo neu rwystro eraill yn amhriodol yn sgîl eich rôl.

2. Gonestrwydd

Rhaid datgan unrhyw fuddiannau cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’ch dyletswyddau cyhoeddus a chymryd camau fel nad yw buddiannau’n gwrthdaro er lles y cyhoedd.

3. Didwylledd ac ymddwyn yn briodol

Ni ddylech roi eich hun mewn sefyllfa lle cwestiynir eich ymddygiad yn sgîl unrhyw ymrwymiad ariannol neu fel arall i unigolion neu gyrff a allai geisio dylanwadau ar sut rydych yn gwneud eich gwaith. Rhaid osgoi’r argraff o ymddygiad o’r fath bob amser.

4. Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Rhaid i chi gynnal y gyfraith a gweithredu bob amser yn unol â’r ymddiriedaeth y mae’r cyhoedd wedi’i rhoi ynddoch.

5. Stiwardiaeth

Wrth gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau, rhaid i chi ofalu bod adnoddau’r awdurdod yn cael eu defnyddio’n gyfreithlon ac yn gynnil.

6. Bod yn wrthrychol wrth wneud penderfyniadau

Wrth benodi, dyfarnu cytundebau neu argymell unigolion ar gyfer gwobrau a manteision yn rhinwedd eich swydd, rhaid i chi ddod i benderfyniadau ar sail haeddiant. Er bod rhaid ystyried cyngor proffesiynol swyddogion yn ogystal â barn pobl eraill gan gynnwys eich cylch gwleidyddol, eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu beth sydd orau neu sut i bleidleisio.

7. Cydraddoldeb a pharch

Wrth gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau, rhaid ystyried yr angen i roi’r un cyfle i bawb beth bynnag fo’u rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oed neu grefydd yn ogystal â pharchu ac ystyried pobl eraill.

8. Bod yn agored

Rhaid i chi fod mor agored â phosibl am eich holl waith, yn ogystal â gwaith eich awdurdod. Rhaid gofalu mai yn unol â’r gyfraith yn unig y cyfyngir gwybodaeth.

9. Atebolrwydd

Mae cynghorwyr yn atebol i’r etholaeth a’r cyhoedd yn gyffredinol am beth a sut maen nhw’n cyflawni eu dyletswyddau. Rhaid i chi fod yn barod i gynghorwyr eraill gyflawni eu dyletswyddau hwythau a chraffu ar eich gwaith. 

10. Arweiniad

Rhaid i chi hyrwyddo ac ategu’r egwyddorion yma drwy arwain a bod yn esiampl er mwyn i’r cyhoedd fod yn hyderus ynghylch eich gwaith chi a’r awdurdod. Rhaid i chi barchu annibyniaeth a didwylledd swyddogion statudol a gweithwyr eraill yr awdurdod.

Canllawiau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am y Côd Ymddygiad
http://www.ombudsman-wales.org.uk/cy/cyhoeddiadau/?pID=254

Fel cynghorydd, bydd rhaid i chi lofnodi a glynu’n ffurfiol at y ‘rheolau’ yn eich côd ymddygiad. Mae’r côd yn berthnasol os ydych yn gweithredu neu’n ymddangos fel eich bod yn gweithredu yn rhinwedd eich rôl swyddogol ac ar unrhyw adeg arall. Mae hefyd yn berthnasol os ydych yn ymddwyn mewn modd sydd o bosibl yn rhoi enw drwg i’ch rôl neu’r awdurdod, os ydych yn ceisio elwa yn sgîl eich rôl neu’n camddefnyddio adnoddau’r awdurdod.

Wrth ddod i benderfyniadau sy’n ymwneud â busnes eich awdurdod, bydd yn ddyletswydd arnoch chi i fod yn deg ac yn wrthrychol a pheidio â phenderfynu cyn clywed yr holl wybodaeth berthnasol. Pan fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau, bydd rhaid i chi benderfynu a yw’r mater o ddiddordeb i chi’n bersonol neu os ydych yn teimlo y gallech fod â rhagfarn yn ei gylch. Os felly, bydd angen i chi ddatgan hynny’n ffurfiol.

Cewch ganllawiau cenedlaethol am ddehongli eich côd ymddygiad gan Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus ac wedyn eich swyddog monitro, ar ôl i chi gael eich ethol.