Mae diogelwch yn bwnc llosg ym mhob cymuned. Mae'n bwysig i bobl drwy'r amser achos ei fod yn gallu effeithio ar ansawdd bywydau'r trigolion a'u cymunedau nhw. Dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae pawb wedi sylweddoli nad oes modd i'r heddlu ddiogelu cymunedau ar eu pennau eu hunain ac y gallai trefn lle mae nifer o asiantaethau'n gweithio ar y cyd fod yn fwy effeithiol o lawer.
Mae'r syniad hwnnw wedi'i atgyfnerthu yn sgîl Deddf 'Troseddu ac Anhrefn' 1998 sy'n gofyn i ardal pob awdurdod lleol sefydlu partneriaeth ddiogelwch cymunedol ac iddi gynrychiolwyr o'r awdurdod lleol, yr heddlu, awdurdod yr heddlu, awdurdod y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd lleol a'r gwasanaeth prawf. Rhaid i bob partneriaeth baratoi cynllun 3 blynedd sydd i'w adolygu bob blwyddyn, yn ôl asesiad strategol blynyddol.
Yn ogystal â chyflawni rôl yn y partneriaethau, mae'r awdurdodau lleol yn rhoi sawl gwasanaeth craidd arall sy'n helpu i wneud cymunedau'r wlad yn fwy diogel gan gynnwys:
- trafnidiaeth: ar gyfer diogelwch y ffyrdd;
- addysg: hyrwyddo dinasyddiaeth a chadw pobl ifanc rhag troseddu;
- yr amgylchedd: trin a thrafod troseddu amgylcheddol megis graffiti a gadael sbwriel yn anghyfreithlon;
- tai: diogelu preswylwyr rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- gwasanaethau cymdeithasol: diogelu pobl sy'n agored i niwed a'r rhai sydd wedi dioddef o achos troseddu, a chydlynu'r timau ar gyfer troseddwyr ifanc;
- hamdden a materion diwylliannol: cynnig gweithgareddau amgen i'r rhai mae perygl y byddan nhw'n troseddu;
- cynllunio: creu ardal drefol sy'n rhwystro pobl rhag troseddu ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol;
- gwasanaethau cymunedol: gwardeiniaid a sustemau teledu cylch cyfyng;
- gwasanaethau rheoleiddio: gweithredu yn ôl Deddf 'Trwyddedu' 2003 ynglŷn ag atal troseddu ac anhrefn a diogelu'r cyhoedd.
Mae rôl yr awdurdodau lleol ynglŷn â diogelu cymunedau wedi'i hatgyfnerthu ymhellach trwy'r ddyletswydd eang sydd yn Adran 17 Deddf 'Troseddu ac Anhrefn' 1998, sef gofyn iddyn nhw ystyried troseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth gyflawni pob un o'u swyddogaethau.
Mae gofyn i bob awdurdod lleol sefydlu pwyllgor craffu dros faterion troseddu ac anhrefn hefyd i adolygu a goruchwylio gwaith y bartneriaeth dros ddiogelwch cymunedol.
Sylwadau a Gweithgareddau WLGA
Prif ddibenion WLGA yw hybu safonau ac enw da byd llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau lleol i lunio polisïau a blaenoriaethau fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth leol. Mae WLGA yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ynghylch diogelwch cymunedol, yn ogystal â buddiannau ei haelodau cyswllt.
Mae diogelwch cymunedol yn ymwneud ag ystod eang o bolisïau megis plismona, troseddu ac anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio cyffuriau, trais yn y cartref a thân. Mae diogelwch yn y gymuned ymhlith cyfrifoldebau Cyfarwyddiaeth Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol WLGA.
Ar hyn o bryd, WLGA sy'n hwyluso Fforwm Diogelwch Cymunedol Cymru ac yn cyflawni gwaith ysgrifenyddol iddo.
Llefarwr WLGA
- Y Cyng. Des Hillman yw Llefarydd WLGA dros Ddiogelwch Cymunedol.
Ymgynghorwyr WLGA
- Stephen Carr: Rheolwr Diogelwch Cymunedol: Caerdydd
- Steve Williams: Pennaeth Cefnogi Gwasanaethau Cyhoeddus: Torfaen
- Phil Rafferty: Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio'r: Conwy
- Helena T Hunt: Rheolwr Diogelwch Cymunedol: Blaenau Gwent
- Sian Jones: Arweinydd Tîm Diogelu’r Gymuned: Sir y Fflint
Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman


