Mae diogelwch yn destun pryder i bob cymuned. Mae'n flaenoriaeth bob amser ymhlith y cyhoedd am ei fod yn gallu effeithio ar ansawdd bywydau unigolion a chymunedau cyfan.
All yr heddlu ddim diogelu cymunedau ar ei ben ei hun. Rhaid i nifer o wasanaethau a chyrff gydweithio i ddatrys problemau sy'n effeithio ar gymunedau ac mae cynghorau lleol yn bartneriaid allweddol yn hynny o beth. Mae dyletswydd statudol yn ardal pob cyngor i sefydlu a defnyddio partneriaeth ddiogelwch cymunedol sy'n cynnwys yr awdurdod lleol, yr heddlu, awdurdod yr heddlu, awdurdod y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd lleol a'r gwasanaeth prawf. Dylai fod gan bob awdurdod lleol bwyllgor craffu dros faterion troseddu ac anhrefn hefyd fel y bydd modd i gynghorwyr fwrw golwg ar bartneriaethau diogelwch cymunedol a dylanwadu arnyn nhw.
Rôl yr awdurdodau lleol
Mae diogelwch cymunedol yn cwmpasu amrywiaeth helaeth o bolisïau megis plismona, troseddu ac anhrefn, cwtogi ar aildroseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais yn y cartref, camddefnyddio cyffuriau a thân. Yn ogystal â rôl awdurdodau lleol yn rhan o'r partneriaethau, mae llawer o'u gwasanaethau craidd yn helpu i ddiogelu cymunedau Cymru, gan gynnwys:
- trafnidiaeth – o ran diogelwch y ffyrdd;
- addysg – hybu dinasyddiaeth a chadw pobl ifanc rhag troseddu;
- yr amgylchedd – ymateb i droseddu amgylcheddol megis graffiti a thomenni sbwriel anghyfreithlon, gan rwystro pobl rhag cyflawni troseddau o'r fath;
- tai – diogelu preswylwyr rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- gwasanaethau cymdeithasol – diogelu pobl sy'n agored i niwed a chydlynu timau ar gyfer troseddwyr ifanc;
- hamdden a materion diwylliannol – cynnig gweithgareddau amgen i'r rhai mae perygl y byddan nhw'n troseddu;
- cynllunio – datblygu trefi na fyddan nhw'n hwyluso troseddu nac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- gwasanaethau cymunedol – gwardeiniaid a theledu cylch cyfyng;
- gwasanaethau rheoleiddio – cyflawni amcanion statudol Deddf 'Trwyddedu' 2003 ynglŷn ag atal troseddu ac anhrefn a diogelu'r cyhoedd.
Mae rôl awdurdodau lleol ym maes diogelwch cymunedol wedi'i hatgyfnerthu eto trwy'r ddyletswydd eang yn Adran 17 Deddf 'Troseddu ac Anhrefn' sy'n gofyn i bob awdurdod ystyried troseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth gyflawni pob un o'i swyddogaethau.
Mae disgwyl y bydd trefniadau llywodraethu plismona wedi newid yn sylweddol erbyn etholiadau 2012. Mae Deddf 'Diwygio'r Heddluoedd a Hybu Cyfrifoldeb Cymdeithasol' ar waith er mis Medi 2011. Yn sgîl y ddeddf honno, bydd yr awdurdodau heddlu'n cael eu diddymu fis Tachwedd 2012 ac, yn eu lle nhw, bydd pobl Cymru yn ethol comisiynydd dros faterion plismona a throseddu yn ardal pob heddlu.
Bydd pob comisiynydd yn pennu blaenoriaethau plismona a'r archebiant (yr arian ddaw i'r heddlu trwy dreth y cynghorau) ac yn penodi'r prif gwnstabl, gan ei ddwyn i gyfrif am wasanaethau'r heddlu a'i ddiswyddo lle bo angen.
I gadw golwg ar y comisiynydd, bydd panel materion plismona a throseddu ac iddo o leiaf 10 cynghorydd o awdurdodau lleol ardal yr heddlu a dau aelod annibynnol. Bydd y panel yn gweithredu'n gyfaill beirniadol trwy gwestiynu a chefnogi fel y bo'n briodol.
Ffeithiau allweddol
- Mae lefel y troseddu wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru a Lloegr dros y blynyddoedd diweddar. Gostyngodd nifer y troseddau oedd wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2009-10 o 6% o'i gymharu â 2008-09.
- Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu bod troseddu ar gynnydd ledled y wlad.
Rhagor o wybodaeth


