Mae diogelwch yn destun pryder i bob cymuned. Mae'n flaenoriaeth bob amser ymhlith y cyhoedd am ei fod yn gallu effeithio ar ansawdd bywydau unigolion a chymunedau cyfan.
All yr heddlu ddim diogelu cymunedau ar ei ben ei hun. Rhaid i nifer o wasanaethau a chyrff gydweithio i ddatrys problemau sy'n effeithio ar gymunedau ac mae cynghorau lleol yn bartneriaid allweddol yn hynny o beth. Mae dyletswydd statudol yn ardal pob cyngor i sefydlu a defnyddio partneriaeth ddiogelwch cymunedol sy'n cynnwys yr awdurdod lleol, yr heddlu, awdurdod yr heddlu, awdurdod y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd lleol a'r gwasanaeth prawf. Dylai fod gan bob awdurdod lleol bwyllgor craffu dros faterion troseddu ac anhrefn hefyd fel y bydd modd i gynghorwyr fwrw golwg ar bartneriaethau diogelwch cymunedol a dylanwadu arnyn nhw.
Rôl yr awdurdodau lleol
Mae diogelwch cymunedol yn cwmpasu amrywiaeth helaeth o bolisïau megis plismona, troseddu ac anhrefn, cwtogi ar aildroseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais yn y cartref, camddefnyddio cyffuriau a thân. Yn ogystal â rôl awdurdodau lleol yn rhan o'r partneriaethau, mae llawer o'u gwasanaethau craidd yn helpu i ddiogelu cymunedau Cymru, gan gynnwys:
- trafnidiaeth – o ran diogelwch y ffyrdd;
- addysg – hybu dinasyddiaeth a chadw pobl ifanc rhag troseddu;
- yr amgylchedd – ymateb i droseddu amgylcheddol megis graffiti a thomenni sbwriel anghyfreithlon, gan rwystro pobl rhag cyflawni troseddau o'r fath;
- tai – diogelu preswylwyr rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- gwasanaethau cymdeithasol – diogelu pobl sy'n agored i niwed a chydlynu timau ar gyfer troseddwyr ifanc;
- hamdden a materion diwylliannol – cynnig gweithgareddau amgen i'r rhai mae perygl y byddan nhw'n troseddu;
- cynllunio – datblygu trefi na fyddan nhw'n hwyluso troseddu nac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
- gwasanaethau cymunedol – gwardeiniaid a theledu cylch cyfyng;
- gwasanaethau rheoleiddio – cyflawni amcanion statudol Deddf 'Trwyddedu' 2003 ynglŷn ag atal troseddu ac anhrefn a diogelu'r cyhoedd.
Mae rôl awdurdodau lleol ym maes diogelwch cymunedol wedi'i hatgyfnerthu eto trwy'r ddyletswydd eang yn Adran 17 Deddf 'Troseddu ac Anhrefn' sy'n gofyn i bob awdurdod ystyried troseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth gyflawni pob un o'i swyddogaethau.
Mae disgwyl y bydd trefniadau llywodraethu plismona wedi newid yn sylweddol erbyn etholiadau 2012. Ar hyn o bryd (Mai 2011), mae Llywodraeth San Steffan wrthi'n deddfu ynghylch cyflwyno comisiynwyr etholedig fydd yn gyfrifol am blismona a throseddu yn lle awdurdodau heddlu (sy'n cynnwys cynghorwyr). Mae hynny'n destun cryn dipyn o drafod a lobïo a fydd canlyniad y deddfu ddim yn hysbys tan yr haf. Mae disgwyl, fodd bynnag, na fydd cynghorwyr yn ymwneud â chadw golwg ar waith comisiynwyr dros blismona a throseddu.
Ffeithiau allweddol
- Mae lefel y troseddu wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru a Lloegr dros y blynyddoedd diweddar. Gostyngodd nifer y troseddau oedd wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2009-10 o 6% o'i gymharu â 2008-09.
- Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu bod troseddu ar gynnydd ledled y wlad.
Rhagor o wybodaeth


