Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Tai / Digartrefedd
 

Digartrefedd

O dan Ddeddf Tai 1996 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Digartrefedd 2002, mae gan Awdurdodau Lleol rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal arolwg o ddigartrefedd yn eu hardal, ac i lunio strategaeth i atal digartrefedd a diwallu eu rhwymedigaethau cyfreithiol i ddarparu tai parhaol i bobl sy’n ddigartref yn swyddogol. Cyhoeddwyd Strategaeth Ddigartrefedd genedlaethol yn 2003, ac mae fersiwn diwygiedig i fod i gael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2005. Mae’r strategaeth yn cynnig fframwaith ar gyfer gwaith strategol a gweithredol gan Awdurdodau Lleol a’u partneriaid yn lleol.

Digartrefedd yw’r ffurf fwyaf eithafol o’r angen am dai ac eithrio cymdeithasol. Mae lefelau digartrefedd yn codi’n gyflym yng Nghymru; cafwyd cynnydd o 108% rhwng 2000/1 a 2003/4 yn nifer y bobl sy’n ddigartref yn swyddogol. Mae hyn wedi rhoi pwysau ychwanegol ar Awdurdodau Lleol; er enghraifft, mae’r defnydd o ddarpariaeth Gwely a Brecwast wedi cynyddu dros 500% yn ystod yr un cyfnod. Mae’r rhesymau am y cynnydd hwn yn gymhleth a heb eu deall yn llawn; fodd bynnag, mae’n amlwg eu bod yn gysylltiedig â hawliau cynyddol pobl ddigartref agored i niwed a gyflwynwyd yn 2001, ac â’r tueddiadau yn y farchnad dai ehangach a phwysau ar dai fforddiadwy.

Comisiynwyd cyfres o adolygiadau o wasanaethau digartrefedd Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyhoeddwyd y canlyniadau ym mis Mehefin 2005 (Adroddiad Tarki). Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar y graddau y mae Awdurdodau Lleol yn datblygu dulliau rhagweithiol ar gyfer atal ac mae’n argymell sut y gellid gwella gwasanaethau rheng flaen.

Mae yna argymhellion i gyflwyno deddfwriaeth sy’n rheoleiddio cyflwr ffisegol a rheolaeth llety dros dro yn ogystal â’r cyfnod y gall teuluoedd digartref dreulio mewn llety dros dro

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Finch