Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Tai / Yr hyn y dylai gwasanaeth tai pob awdurdod lleol ei gyflawni
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Yr hyn y dylai gwasanaeth tai pob awdurdod lleol ei gyflawni

Yn sgîl Adolygiad Essex o Dai Fforddiadwy, fe gafodd set o ofynion eu cyflwyno yn 2001 yn rhan allweddol o ddatblygu trefn reoleiddio gyfoes ym maes tai.

Ers hynny, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a Phanel Prif Swyddogion Tai Cymru (AWCHOP) wedi cytuno ar set o ofynion ychwanegol ar gyfer gwasanaethau materion tai'r awdurdodau lleol. Bydd awdurdodau lleol yn gael gweithio yn ôl y gofynion hynny o'u gwirfodd i'w helpu i wella eu gwasanaethau, hynny yw, nid yn rhan o drefniadau rheoleiddio ffurfiol. Mae'r gofynion yn y ddogfen isod.

Diben gofynion WLGA/AWCHOP yw:

  • Cyfeirio proses hunanasesu yn strategol heb fod yn rhy gyfarwyddol.
  • Hybu'r syniad o sefydlu cronfa dystiolaeth gadarn fydd ar gael i gynghorwyr, aelodau o'r cabinet, tenantiaid, cyrff rheoleiddio a budd-ddalwyr ym mhob bro.
  • Gwella'r atebolrwydd trwy roi gwybod i'r tenantiaid/cwsmeriaid beth mae gyda nhw hawl i'w ddisgwyl gan y darparwr.
  • Sbarduno gwella yn y gwasanaethau.

Lle bo modd, mae'r gofynion hyn yn debyg iawn i'r rhai ar gyfer cymdeithasau tai am fod rhai mudiadau'n cwyno bod amodau gwahanol i denantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Bydd hynny'n helpu i gymharu landlordiaid cymdeithasol mewn ardal – boed awdurdod lleol neu gymdeithas dai – hefyd.

Gan fod gwahaniaethau mawr rhwng trefniadau llywodraethu ac ariannu'r awdurdodau lleol a'r cymdeithasau tai, fodd bynnag, mae'r gofynion ar gyfer gwasanaethau tai'r awdurdodau lleol wedi'u pennu yn ôl y tri phennawd isod. Mae 'egwyddorion y gwasanaeth' yn lle'r gofynion ynglŷn â llywodraethu ac ariannu cymdeithasau tai. Mae cydnabyddiaeth hefyd o rôl unigryw'r awdurdodau lleol o ran digartrefedd a materion strategol. At hynny, mae'r strwythur hwn yn adlewyrchu'r ffaith bod llawer o awdurdodau lleol Cymru wedi trosglwyddo eu tai ac nad ydyn nhw'n landlordiaid mwyach.

Dyma'r gofynion ar gyfer gwasanaethau tai'r awdurdodau lleol:

  • Egwyddorion y gwasanaeth
  • Gorchwylion gwasanaethau tai'r awdurdodau lleol: Digartrefedd / Rôl strategol
  • Gwasanaethau'r awdurdodau lleol yn rhinwedd eu swyddogaeth yn landlordiaid.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle