Torri cwys wnaeth Cymru trwy gyflwyno Strategaeth y Bobl Hŷn yn 2003, ac fe gawson ni glod o bedwar ban byd am ddelfryd ac ehangder y strategaeth. Mae llawer o'i llwyddiant wedi dibynnu ar gymorth byd llywodraeth leol sy'n bennaf cyfrifol am ei rhoi ar waith ledled y wlad. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at nifer o brosiectau sy'n dangos faint mae awdurdodau lleol Cymru wedi'i wneud I geisio gwireddu dyheadau'r strategaeth a sut mae'r rheiny wedi'u haddasu'n lleol yn ôl anghenion pobl hŷn.


