Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Gwasanaethau (Plant ac Ysgolion) Cymru / Deddf 'Plant' 2004
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Deddf 'Plant' 2004

Mae Deddf 'Plant' 2004 yn pennu ffordd newydd o gynllunio ar gyfer gwasanaethau i blant a phobl ifainc, gan gynnwys addysg. Y prif newid yw y bydd y cynlluniau addysg cyfredol yn rhan o gynllun cynhwysfawr ar gyfer plant a phobl ifainc. Bydd y cynllun newydd yn ymwneud â'r gwasanaethau i gyd i blant a phobl ifainc yn ardal awdurdod lleol o 2008. Partneriaeth ar gyfer plant a phobl ifainc fydd yn paratoi'r cynllun ym mhob awdurdod. Er mai'r awdurdod lleol sy'n bennaf cyfrifol amdano, mae nifer o bartneriaid eraill megis y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, y timau ar gyfer troseddwyr ifainc a'r sector gwirfoddol yn gyfrifol am ei baratoi a'i gyflwyno, hefyd. Rhaid i bob partner gydweithio i roi gwasanaethau i blant a phobl ifainc yn ôl eu hanghenion.

Mae hyn yn dipyn o her i bob partner sy'n ymwneud â pharatoi'r cynlluniau. Er nad yw'r syniad o weithio mewn partneriaeth yn un newydd i'r awdurdodau lleol, bydd angen amser ac ymrwymiad i roi'r prosesau ar waith. Ym marn yr awdurdodau lleol, gofalu bod y trefniadau cydweithio'n briodol yw'r brif elfen o ran cyflawni eu cyfrifoldeb pwysicaf – ymroi i wella byd plant a phobl ifainc beth bynnag fo eu cefndir a'u sefyllfa.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne