Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Cydraddoldebau a Deddf Cydraddoldeb 2010 / Deddf Cydraddoldeb 2010
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb ar waith er 1af Hydref 2010. Mae'n rhoi fframwaith statudol newydd i ddiogelu hawliau pobl a hybu cyfleoedd cyfartal i bawb. Mae'r ddeddf hon yn cyfuno tua 116 o ddarnau statudol fel y bydd yn haws dehongli'r gyfraith ynghylch anffafrio a chadw ati. Bydd sawl mantais i gwmnïau, cyrff cyhoeddus ac unigolion yn sgîl hynny.
Yn ogystal â symleiddio'r gyfraith, mae'r ddeddf yn cryfhau ac yn cysoni gofynion statudol o ran anffafrio, gan ddiogelu unigolion yn well rhag annhegwch a hybu cymdeithas decach a mwy cyfartal a ffyniannus.

Dyma'r naw deddf sydd wedi'u cyfuno:

  • Deddf Cyflogau Cyfartal 1970
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
  • Deddf Cydberthynas Hiliau 1976
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Tueddfryd Rhywiol) 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006 
  • Deddf Cydraddoldeb 2006, Rhan 2
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2007 (Tueddfryd Rhywiol)

Beth sydd wedi newid?

Dyma rai enghreifftiau o'r modd mae'r gyfraith wedi newid:

  • Diogelu pobl anabl rhag anffafrio yn well
  • Diogelu pobl allai gael eu hanffafrio o achos cysylltiadau neu dybiaeth
  • Dyletswydd i'r sector cyhoeddus ynghylch 8 nodwedd berthnasol: Oedran, Anabledd, Newid Rhyw, Disgwyl Baban a Mamolaeth, Tras, Crefydd a Chred, Rhyw, Tueddfryd Rhywiol
  • Camau cadarnhaol o ran denu a dyrchafu staff fel y bydd rhagor o ryddid i gywiro diffygion yn y gweithlu
  • Cryfhau pwerau tribiwnlysoedd cyflogaeth
  • Diogelu merched sy'n feichiog a'r rhai sy'n bwydo o'r fron yn well
  • Gwahardd anffafrio mewn clybiau preifat

Dyletswydd y Sector Cyhoeddus

Mae'r ddeddf yn gofyn i gyrff cyhoeddus gadw'r ystyriaethau isod mewn cof wrth gyflawni eu swyddogaethau:

(a) Cael gwared ar anffafrio, aflonyddu, erlid neu unrhyw ymddygiad arall mae'r ddeddf hon wedi'i wahardd;

(b) Hybu cyfleoedd cyfartal rhwng pobl mae'r ddeddf yn eu diogelu rhag anffafrio a phobl eraill;

(c) Meithrin cydberthynas dda rhwng pobl mae'r ddeddf yn eu diogelu rhag anffafrio a phobl eraill.

At hynny, bydd dyletswyddau penodol yng Nghymru ynghylch: 

  • Ymgysylltu â'r gymuned
  • Rhoi gwybodaeth ar gael
  • Amcanion cydraddoldeb yn rhan o gynllun cydraddoldeb
  • Asesu effeithiau
  • Casglu a chyflwyno gwybodaeth am swyddi a chyflogau
  • Caffael cyhoeddus
  • Trefniadau Gweinidogion Cymru ar gyfer cyflwyno adroddiadau

Mae rhagor o wybodaeth gan: Anna Morgan