30 Ebrill 2008
Peidiwch â gadael i bobl eraill ddewis eich gwasanaethau lleol, medd WLGA wrth annog pawb i bleidleisio yn yr etholiadau lleol ddydd Iau 1af Mai 2008.
Meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:
“Dyma gyfle i bobl ddweud eu dweud am beth sy'n digwydd yn lleol. Os yw'r gwasanaethau'n dda, a chithau am eu cadw'r un fath neu eu gwella, dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud.”
“Mae'r rhan fwyaf o bobl am bwyso a mesur wrth ddewis yswiriant i'w ceir neu gwmni trydan ond, am ryw reswm, mae gormod o bobl yn fodlon aros gartref a gadael i bobl eraill ddewis pa wasanaethau lleol fydd ar gael iddyn nhw. Fyddech chi'n gadael i'ch cymydog ddewis pa gwmni ffonau neu nwy y dylech chi ei ddefnyddio? Fyddech chi ddim, yn ôl pob tebyg. Felly, pam gadael iddyn nhw benderfynu pwy fydd yn gyfrifol am y gwasanaethau sydd i'w defnyddio bob dydd. Heblaw hynny, byddan nhw'n penderfynu pwy fydd yn pennu treth y cyngor, hefyd.”
“Mae'r cynghorau'n cynnal ysgolion i'n plant a gwasanaethau cymdeithasol i'r bobl fwyaf bregus. Maen nhw'n cynnal parciau a chanolfannau hamdden, llyfrgelloedd, cludiant cyhoeddus a gwasanaethau glanhau'r strydoedd, casglu sbwriel ac ailgylchu. Maen nhw'n gyfrifol am gynllunio ac am gynnal llawer o'r isadeiledd cyhoeddus megis ffyrdd a goleuo'r strydoedd. Maen nhw'n mynd i'r afael â graffiti ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn diogelu hawliau defnyddwyr i ofalu na chaiff neb nwyddau gwallus na mesur byr. Mae'r rhestr bron yn ddi-rif."
“Mae lles y teulu, ffrindiau a'r gymuned yn bwysig i bawb. Felly, dylai pawb fwrw pleidlais am mai'r cynghorau sy'n effeithio'n fwyaf ar y gwasanaethau allweddol rydyn ni'n eu defnyddio.”
“Mae traddodiad hir o ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru. Os nad yw pobl yn credu bod arnyn nhw ddyletswydd i'r rhai ymgyrchodd dros eu hawl i bleidleisio, dylen nhw o leiaf gyflawni'r ddyletswydd iddyn nhw eu hunain, i'w teuluoedd a'u cymunedau trwy gymryd rhan yn yr etholiadau a dweud eu dweud ynglŷn â phwy fydd yn gyfrifol am wasanaethau ar eu cyfer ac ar gyfer y gymuned.”
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford
