WLGA yn croesawu prosiect sylweddol i drin gwastraff yng Nghymru
24 Tachwedd 2009
Croesawodd WLGA heddiw ddechrau prosiect gwerth miliynau o bunnoedd - Prosiect Gwyrdd – fydd yn galluogi cyfungorff ac iddo 5 awdurdod lleol (Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg) i fuddsoddi mewn sustemau cyfoes a chynaladwy i drin gwastraff nad oes modd ei ailgylchu na'i droi'n wrtaith.
Cynigiodd y cyfungorff gytundeb i gwmnïau yng Nghylchgrawn Swyddogol Undeb Ewrop yn ddiweddar trwy gyhoeddi hysbysiad am ofynion y prosiect. Bydd y broses gaffael yn sgîl hynny yn un gymhleth.
Mewn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw ar gyfer cynghorwyr sy'n gyfrifol am faterion gwastraff yn yr awdurdodau lleol, meddai'r Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA:
“Mae dwy broses gaffael bwysig yn mynd yn eu blaen yng Nghymru o ran trin gwastraff – y naill ar gyfer bwyd a'r llall ar gyfer gwastraff arall. Mae'r cyhoeddiad heddiw am Brosiect Gwyrdd yn ymwneud â'r ail.
Mae Prosiect Gwyrdd yn gam uchelgeisiol ond hanfodol o ran llwyddiant 5 o awdurdodau'r de-ddwyrain ym maes trin gwastraff. Gallai'r prosiect leddfu'n fawr y perygl y byddai Undeb Ewrop yn codi dirwyon ar yr awdurdodau lleol hynny am fethu â chladdu llai o wastraff.
Er mwyn i Gymru gyflawni targedau ymestynnol Llywodraeth y Cynulliad ac Undeb Ewrop, fodd bynnag, bydd rhaid i'r awdurdodau lleol i gyd godi cyfleusterau newydd ar gyfer trin gwastraff. Mae'n hanfodol gwneud hynny am fod tomenni'n mynnu gormod o le ac yn niweidio'r amgylchedd.
Os nad ydyn nhw'n parhau i gwtogi ar faint o wastraff maen nhw'n ei gladdu, bydd rhaid i awdurdodau lleol dalu dirwyon llym o hyd at £200 y tunnell. Mae prosiectau fel hyn yn rhan hanfodol o'r ateb. Bydd yn anodd cyflawni'r targedau ond rydyn ni'n gwybod bellach ein bod yn gallu llwyddo trwy bartneriaethau caffael megis Prosiect Gwyrdd. Mae materion gwastraff yn arbennig o bwysig i fyd llywodraeth leol erbyn hyn ac mae llawer o arian wedi'i fuddsoddi yn y gwasanaeth hwnnw. Mae'r cyhoeddiad yma'n dangos bod byd llywodraeth leol a gwladol yn mynd ati i ddiogelu'r amgylchedd er lles ein cymunedau er gwaetha'r ffaith ein bod mewn sefyllfa ariannol anodd iawn ar hyn o bryd. Mae Prosiect Gwyrdd yn enghraifft wych o gydweithio effeithiol ymhlith Llywodraeth y Cynulliad, Partnerships UK (sy'n cynghori am y caffael), WLGA a'r awdurdodau lleol sydd wedi cydweithio'n agos â'i gilydd i ddatblygu'r prosiect.”
Diwedd


