WLGA yn croesawu adroddiad y Prif Archwilydd am wasanaethau cyhoeddus Cymru
14 Hydref 2011
Yn ymateb i adroddiad gyhoeddodd y Prif Archwilydd heddiw, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus yn 2011’, meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:
“Mae WLGA yn croesawu adroddiad y Prif Archwilydd heddiw. Er y bydd angen inni astudio'r adroddiad yn fanwl, bydden ni'n cefnogi nifer o'r casgliadau pennaf. Mae'r Prif Archwilydd wedi cydnabod bod y sector cyhoeddus yn wynebu anawsterau na welodd eu tebyg erioed, ond mae'n derbyn hefyd na fydd modd amlygu cynnydd na thrawsffurfio dros nos. Yn bwysicaf oll, mae'r adroddiad yn derbyn bod cynghorau, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau heddlu Cymru ar y trywydd iawn ac mewn sefyllfa dda i ateb yr heriau yma.
Mae cynghorau Cymru am gydweithio lle bydd hynny'n arbed arian ac yn arwain at well deilliannau ac mae'r Prif Archwilydd yn cytuno y dylen ni gydweithio i ddibenion penodol, nid dim ond er mwyn cydweithio. Bydden ni'n cwestiynu tyb y Prif Archwilydd bod peth 'ansicrwydd' ynglŷn â sut mae'r cynghorau'n bwriadu cydweithio rhagor, fodd bynnag. Mae'r cynghorau wedi cyflawni cryn dipyn yn barod o ran dod i gytundeb â Llywodraeth Cymru am y gwasanaethau y byddan nhw'n cydweithio ar eu cyfer a'r amserlen briodol.”
Nodiadau i olygyddion
Mae'r adroddiad ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru: http://www.wao.gov.uk/home.asp
Mae rhagor o wybodaeth gan Lucy Sweet: 029 2046 8673 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk


