Bydd caledi ariannol yn sgîl dyraniad arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad
13 Hydref 2009
Gan ymateb i'r dyraniad arfaethedig gafodd ei gyhoeddi heddiw, dywedodd WLGA ei fod yn cadarnhau bod byd llywodraeth leol yn wynebu talcen caled ynglŷn ag ariannu gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf, o leiaf.
Cefnogodd WLGA gyllideb Llywodraeth y Cynulliad a'i phrif weinidogion yr wythnos ddiwethaf a chydnabod eu hymdrechion i ddiogelu cymunedau Cymru trwy roi'r flaenoriaeth i wasanaethau rheng flaen. Mae WLGA wedi cynnal cyfarfodydd cynhyrchiol â Llywodraeth y Cynulliad ac mae'n dweud y dylai'r cyfarfodydd hanfodol hynny barhau gan fod byd llywodraeth leol yn ei sefyllfa ariannol anhawsaf ers dros 50 mlynedd.
Meddai'r Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA:
“Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Gweinidog Materion Ariannol Llywodraeth y Cynulliad – yn llygad ei le – fod y blynyddoedd anodd wedi dechrau. Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anodd i fyd llywodraeth leol ac, yn ôl ein disgwyl, bydd cynghorau'n wynebu rhai penderfyniadau anodd yn sgîl y dyraniad yma.
O achos y fformiwla cymhleth ar gyfer ariannu llywodraeth leol, byddai rhai awdurdodau lleol wedi cael llai nag 1% ychwanegol oni bai am yr isafswm gafodd ei bennu i'w diogelu a gofalu y bydd pawb yn cael hyn a hyn o arian. Bydd y cynghorau'n cael cynnydd o 2.1% ar gyfartaledd – yr un lleiaf ers datganoli. Yn wir, dim ond rhwng 1% a 2% gaiff dros hanner ohonyn nhw.
Er gwaethaf dyraniadau isel dros y tair blynedd diwethaf, mae'r awdurdodau lleol wedi llwyddo i godi eu trethi cyn lleied ag y bu modd a byddan nhw'n ceisio eu cynyddu yn ôl lefel resymol eto eleni. Maen nhw'n wynebu pwysau enfawr ym meysydd gofal cymdeithasol, addysg, tai, trafnidiaeth a gwastraff, fodd bynnag, a chan y bydd angen peth blaenoriaethu, y gwir yw na allan nhw gorlannu pob maes.
Bydd y cynghorau'n gorfod dod i benderfyniadau anodd iawn ynglŷn â chwtogi ar wasanaethau a diswyddo gweithwyr. Bydd WLGA yn parhau i gydweithio'n agos â'r cynghorau a Llywodraeth y Cynulliad i esbonio wrth y trethdalwyr pam mae eisiau penderfyniadau anodd o'r fath. Ar ben hynny, bydd angen i'r cynghorau wneud eu gorau glas i weithio'n fwy effeithlon – megis cydweithio a mathau newydd o wasanaethau – ond dyma dalcen caled iawn, yn arbennig ynghylch gwario cyfalaf.
Bydd gwario cyfalaf y sector cyhoeddus yn gostwng o'i hanner, yn ôl pob tebyg, yn ystod y pedair blynedd nesaf. Rydyn ni'n gweld dechrau'r wasgfa yn barod gan y bydd dyraniad 2010-11 10% yn llai nag un 2009-10."
Meddai'r Cyng. Rodney Berman (Caerdydd), Llefarydd WLGA dros Faterion Ariannol:
“Gan fod coffrau'r wlad yn wag, dyma'r cwbl y gallai byd llywodraeth leol Cymru fod wedi'i ddisgwyl, eleni. Yn anffodus, bydd yn waeth fyth rhwng 2011 a 2014. Ac etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae gwir ansicrwydd ynglŷn â pha mor dynn a chyflym y bydd arian y sector cyhoeddus yn cael ei wasgu.
A'r sector preifat yn dod allan o'r dirwasgiad bob yn dipyn, mae gwir berygl y gallai dirwasgiad arall effeithio ar y sector cyhoeddus. Os felly, bydd cwmnïau preifat yn dioddef yn eu tro achos eu bod yn gwerthu llawer o wasanaethau a nwyddau inni.
Gallai'n cymunedau ddioddef yn fawr hefyd, gan fod tua thraean o weithwyr y wlad yn perthyn i'r sector cyhoeddus. Felly, dylai ymdrechion i flaenoriaethu a diogelu gwasanaethau rheng flaen fod wrth wraidd pob un o benderfyniadau byd llywodraeth leol. Er bod y dyraniad arfaethedig yma wedi'i dargedu'n briodol, all neb ddianc rhag y ffaith mai dyma'r cynnydd blynyddol isaf ers 10 mlynedd ac, yn ôl pob tebyg, bydd yn arwain at doriadau sylweddol."
Mae manylion dyraniad arfaethedig 2010-11 Llywodraeth y Cynulliad ar:
http://www.wales.gov.uk/topics/localgovernment/finandfunding/settlement/lgsettlement09101/prov1011/?lang=en
Diwedd


