Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Ymateb WLGA i'r darn yn y Western Mail am daliadau i weithwyr cymdeithasol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymateb WLGA i'r darn yn y Western Mail am daliadau i weithwyr cymdeithasol

18 Awst 2009

Gan ymateb i ddarn yn y Western Mail heddiw fod cynghorau'n rhoi taliadau ychwanegol i weithwyr cymdeithasol, meddai llefarydd ar ran WLGA:

“Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yn gyflogwr annibynnol sy'n cytuno ar gyflogau a thelerau gweithwyr cymdeithasol yn yr un modd ag unrhyw swydd arall mewn awdurdod lleol. Mae'r cyflogau a'r telerau 'n cael eu pennu'n deg ac yn destun proses gadarn ar gyfer gwerthuso swyddi. O'u cymharu â'r athrawon, er enghraifft, sy'n cael eu talu ledled y DG yn ôl statud gwladol, mae staff awdurdodau lleol Cymru – gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol - yn dod i gytundeb â'u cyflogwyr ynglŷn â faint o arian sydd i'w roi iddyn nhw.

Mae'r cynghorau'n gweithredu'n bwyllog wrth bennu cyflogau eu staff. Mae'n hanfodol cynnig cyflog priodol a chystadleuol i weithwyr cymdeithasol am gyflawni rôl ymestynnol a hollbwysig yn y gymuned a helpu i wella gwasanaethau cymdeithasol Cymru drwy'r amser. Dim ond un elfen o ddenu a chadw gweithwyr cymdeithasol yw cyflog cystadleuol, fodd bynnag. Mae sawl gweithiwr cymdeithasol wrthi'n ceisio ymdopi â gormod o achosion ac mae angen gwell cyfleoedd i ddatblygu gyrfa. O ganolbwyntio ar gyflogau, mae tuedd i anghofio am y broblem mae cynghorau Cymru yn ei hwynebu o ran gofalu bod gweithlu cadarn gyda nhw ym maes gofal cymdeithasol. Mae eisiau gweithwyr cymdeithasol cymwysedig, ond mae'n bwysig cael digon o adnoddau i ateb disgwyliadau cynyddol y gymdeithas, hefyd.”

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl