Ymateb WLGA i broses ymgynghori Swyddfa'r Post Cyf.
04 Mehefin 2008
“Rydyn ni'n cynnal trafodaethau gyda Swyddfa'r Post Cyf. am gau canghennau yng Nghymru a'r posibilrwydd y bydd byd llywodraeth leol yn ymwneud â'r post yn y dyfodol. Mae cynghorwyr lleol yn pryderu'n fawr am effaith cau canghennau ac roedd yn bwnc llosg yn yr etholiadau lleol yng Nghymru yn ddiweddar.
Er ein bod yn derbyn bod rhesymau dros newid rhwydwaith Swyddfa'r Post yn y DG gan ei fod yn colli mwy a mwy o arian a chwsmeriaid, rydyn ni'n annog Swyddfa'r Post Cyf. i gadw cynifer o ganghennau ag y bo modd yng Nghymru. Mae cangen leol Swyddfa'r Post wrth galon sawl cymuned, gan gynnig gwasanaeth hanfodol sy'n galluogi pobl – yn arbennig hen bobl a charfanau eraill sydd ar ymylon y gymdeithas – i gadw cysylltiadau â'u milltir sgwâr a threfi a phentrefi eraill ledled Cymru. Er ei bod yn bwysig pennu ffordd gost-effeithiol o gynnal y rhwydwaith, rhaid ystyried cynnal ein cymunedau, hefyd. Rydyn ni'n parhau i siarad â Swyddfa'r Post Cyf. i ofalu nad elw yn unig sy'n gyrru'r broses yma. Rydyn ni'n cydweithio'n agos â Llywodraeth y Cynulliad hefyd, ynglŷn â'r posibilrwydd o ailsefydlu ei chronfa ddatblygu ar gyfer canghennau Swyddfa'r Post, fel sydd wedi'i amlinellu yn 'Cymru'n Un'.”


