Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Ymateb WLGA i ymyrraeth Llywodraeth y Cynulliad ynghylch cau ysgol
 

Ymateb WLGA i ymyrraeth Llywodraeth y Cynulliad ynghylch cau ysgol

25 Gorffennaf 2008

Yng ngoleuni adroddiadau yn y cyfryngau bod Gweinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn i'r arolygiaethau a Swyddfa Archwilio Cymru adolygu'r penderfyniad i gau ysgol yn y gogledd, mae WLGA wedi cyhoeddi'r datganiad isod am y goblygiadau i fyd llywodraeth leol Cymru.

Meddai'r Cyng. Peter Fox (Sir Fynwy), Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes:

“Rydyn ni o'r farn bod y Gweinidog wedi gosod cynsail afiach fydd yn effeithio ar fyd llywodraeth leol Cymru i gyd ac y bydd eisiau i WLGA ei thrafod. Dro ar ôl tro, rhaid i awdurdodau lleol ddod i benderfyniadau anodd na fyddan nhw at ddant y cyhoedd bob amser. Yn hyn o beth, gallai'r hyn wnaeth y Weinidog amharu ar arloesi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'n cyfleu'r neges anghywir i aelodau pob cabinet, y cynghorwyr a'r uwch reolwyr – sef y gallai penderfyniadau i ddirwyn prosiectau i ben am nad ydyn nhw'n gweithio'n foddhaol a bod gormod o risgiau iddyn nhw sbarduno ymyrryd llawdrwm o du Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi newid ei pholisïau a'i phenderfyniadau ei hun sawl gwaith ac mae hawl ganddi i wneud hynny. Yn yr un modd, dyma fater sy'n ymwneud â sofraniaeth a phenderfyniadau lleol. Os yw Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu gofyn i'r arolygiaethau gamu i mewn bob tro y bydd cyngor yn cau cyfleuster, byddan nhw'n brysur iawn dros y 3 blynedd nesaf. Bydd rhaid i gynghorau ledled Cymru wynebu penderfyniadau anodd am y gwasanaethau a'r cyfleusterau maen nhw'n gallu eu cynnal gan mai dim ond o 2.5% y flwyddyn mae dyraniad Llywodraeth y Cynulliad i fyd llywodraeth leol yn cynyddu, ac mae hynny'n is o lawer na chyfradd y chwyddiant.”

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl