Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Arweinyddion WLGA yn gofyn am gylch economaidd cenedlaethol i Gymru yng ngoleuni'r sefyllfa ariannol
 

Arweinyddion WLGA yn gofyn am gylch economaidd cenedlaethol i Gymru yng ngoleuni'r sefyllfa ariannol

07 Hydref 2008

Gan fod Llywodraeth y Cynulliad ar fin cyhoeddi ei chyllideb arfaethedig heddiw a bod pwysau enfawr ar goffrau'r wlad, mae arweinyddion WLGA yn awgrymu y dylid sefydlu cyngor economaidd cenedlaethol i drin a thrafod sut bydd prinder arian i'w fenthyca a'r dirwasgiad sydd ar y gorwel yn effeithio ar economi Cymru a'i chymunedau.

Mae WLGA yn dweud bod gwir angen dulliau newydd ac arloesol fyddai'n dod ag arbenigwyr sectorau cyhoeddus, preifat ac annibynnol Cymru a'r undebau llafur at ei gilydd i ddyfeisio atebion amgenach o lawer na'r syniadau cyfredol.

Meddai'r Cynghorwyr John Davies (Sir Benfro), Meryl Gravell (Sir Gâr) a Derek Vaughan (Castell-nedd Port Talbot):

“Ein dyletswydd ar ran pobl Cymru yw rhannu arbenigedd a chwilio am syniadau allai leddfu'r problemau cynyddol yn yr economi ehangach. Er mai gwlad fechan yw Cymru, mae'n hanfodol i Lywodraeth y Cynulliad ateb yr her a llywio'r wlad trwy'r trafferthion economaidd presennol.

Er y byddai rhaid trafod trefn ac aelodau'r cyngor ymhellach, mae angen cymryd camau'n fater o frys i ymdopi â'r argyfwng sy'n datblygu. Cafodd y Cynulliad ei sefydlu i roi arweiniad strategol yng Nghymru ond mae'r trafodaethau ar lawr y Senedd yn blwyfol eu natur yn aml. Mae WLGA yn gofyn i Lywodraeth y Cynulliad edrych tu hwnt i 'Cymru'n Un' a mynd i'r afael â gwir bryderon ein cymunedau ar y cyd â'i phartneriaid. All neb ddatrys problem o'r fath ar ei ben ei hun. Felly, dylai Lywodraeth y Cynulliad gydweithio'n agos â phartneriaid megis WLGA, TUC Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cydffederasiwn y GIG a CBI Cymru i geisio lleddfu effaith yr argyfwng ar y wlad.

Dydyn ni ddim yn awgrymu sefydlu siop siarad, ond corff pwrpasol y byddai'r Prif Weinidog yn ei arwain i ddod â phob partner yn y gymdeithas at ei gilydd i fynd â'r maen i'r wal.”

Byddai agenda Cyngor Economaidd Cenedlaethol Cymru yn enfawr, a barn WLGA yw y dylai ganolbwyntio ar ddiogelu swyddi a helpu pobl allai golli eu cartrefi – am y tro, o leiaf – er bod angen ystyried y materion ehangach fydd yn effeithio ar ffyniant economaidd Cymru megis tai, addysg, iechyd ac ynni:

Tai
• Gofalu bod deiliadaethau priodol ynghylch tai cymdeithasol, tai fforddiadwy a chynlluniau achub morgeisi.
• Codi tai cymdeithasol a thai cyngor i'w rhoi ar osod.
• Mae Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol yn darogan y bydd miliwn o bobl yn wynebu colli eu cartrefi dros y 18 mis nesaf.
• Dysgu gwersi'r tair chwalfa ym maes tai ers y 1970au.

Ynni, cynaladwyedd a'r amgylchedd
• Y newid hinsoddol a chwtogi ar garbon.
• Rôl ffyrdd amgen o gynhyrchu ynni gan fod ynni'n fwyfwy drud (sydd wedi arwain at gynnydd dros 100% yng nghost ynni i gartrefi, y sector cyhoeddus a byd busnes).
• Costau cynyddol diogelu'r wlad rhag llifogydd.

Addysg
• Mynd i'r afael â'r rhestr hir o atgyweiriadau yn yr ysgolion – £2.2 biliwn, yn ôl amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru.
• Cynllunio ar gyfer lleoedd gwag yn yr ysgolion (mae amcangyfrif y bydd 43,000 o leoedd gwag ledled Cymru erbyn 2011) a'r modd y gallai hynny effeithio ar gymunedau.

Cefn gwlad, hygyrchedd a theneurwydd
• Gofalu bod digon o wasanaethau ar gael yng nghefn gwlad ac ystyried y costau ychwanegol mewn ardaloedd tenau eu poblogaeth.

Gwastraff
• Rheoli gwastraff, ailgylchu a chreu ynni o wastraff – allwn ni ddim claddu rhagor o sbwriel. I gyflawni targed y Cynulliad ynglŷn ag ailgylchu 70% o'n gwastraff a chreu 30% o'n hynni o wastraff, bydd angen buddsoddi llawer o arian bob blwyddyn dros y 17 flynedd nesaf.

Iechyd a gofal cymdeithasol
• Effaith y newid yn natur y boblogaeth ar ofal cymdeithasol – mae'r Gwir Anrh. Alan Johnson AS wedi cyhoeddi adroddiad sy'n dangos y bydd diffyg o £6 biliwn ynghylch ariannu gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod.
• Ysbytai a gofal sylfaenol.
• Iechyd y cyhoedd, effaith economaidd tewdra a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Datblygu economaidd/adfywio
• Dyw Cymru ddim yn cystadlu'n dda. Yn ôl ffigurau Llywodraeth y DG mewn adroddiad am gystadlu economaidd yng Ngogledd Iwerddon, rydyn ni ar waelod tabl sy'n nodi cyflawniad 11 rhanbarth economaidd y DG.
• Astudio sut gallai partneriaethau rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat ddatblygu fel y bydd rhagor o adnoddau.
• Manteisio i'r eithaf ar arian Undeb Ewrop megis rhaglenni cydgyfeirio, cystadlu a JESSICA.

Diogelwch cymunedol
• Ystyried diogelwch cymunedol ac effeithiau economaidd troseddu.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl