Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / WLGA yn llongyfarch Cynghorydd y Flwyddyn 2009
 

WLGA yn llongyfarch Cynghorydd y Flwyddyn 2009

09 Rhagfyr 2009

Cafodd y Cyng. Dyfed Edwards, Dirprwy Lywydd WLGA ac Arweinydd Cylch Plaid Cymru yma ei enwi'n ‘Gynghorydd y Flwyddyn’ yn ystod achlysur 'Gwleidydd y Flwyddyn' yng Nghaerdydd neithiwr.

Gan ei longyfarch, meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:

“Mae WLGA yn llongyfarch Dyfed am y llwyddiant yma. Mae'n gynghorydd o'r radd flaenaf, uchel ei barch, ym myd llywodraeth leol Cymru o ran y gwaith mae'n ei gyflawni yn ei awdurdod lleol a'r hyn mae'n ei wneud yn Ddirprwy Lywydd WLGA ac Arweinydd Cylch Plaid Cymru yma. Mae rôl bwysig iddo ynglŷn â'n cynghori ni am faterion hamdden, twristiaeth a'r Gymraeg, hefyd.

Dyma gyfnod arbennig o anodd i awdurdodau lleol Cymru a bydd pethau gwaeth o lawer yn dod dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae'r cynghorau'n wynebu talcen caled ym meysydd gofal cymdeithasol, addysg, trafnidiaeth, gwastraff a thai a bydd penderfyniadau anodd am flaenoriaethu adnoddau. Mae gwobrau fel y rhain yn hanfodol iawn ynglŷn â chydnabod faint mae cynghorwyr yn ei wneud wrth arwain eu cymunedau a darparu ar eu cyfer yn ystod y cyfnod anodd yma, gan gynnwys trin a thrafod penderfyniadau anodd iawn am dorri gwasanaethau ac ystyried pob dewis o ran gweithio'n fwy effeithlon, gweithio ar y cyd a gwella gwasanaethau lleol.”


Nodiadau i olygyddion

Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dirprwy Lywydd WLGA ac Arweinydd Cylch Plaid Cymru yno yw'r Cynghorydd Dyfed Edwards.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl