07 Hydref 2008
Gan fod cymaint o gynnwrf yn y marchnadoedd ariannol a bod effaith y costau cynyddol ar gymunedau Cymru yn tyfu, mae arweinyddion WLGA am leddfu unrhyw bwysau ar bobl Cymru trwy osgoi codi treth y cynghorau'n fawr y flwyddyn nesaf.
Meddai'r Cynghorydd Rodney Berman (Caerdydd), Llefarydd WLGA dros Faterion Ariannol:
“Treth y cynghorau yw'r unig dreth mae modd ei chodi'n uniongyrchol yng Nghymru a dylai Llywodraeth y Cynulliad a byd llywodraeth leol fel ei gilydd geisio diogelu'r rhai sy'n ei thalu rhag cynnydd mawr.
Mae archwilwyr byd llywodraeth leol Cymru wedi paratoi adroddiad sy'n dangos ein bod wedi rhagori ar dargedau effeithlonrwydd y sector cyhoeddus. Ar ben hynny, yn rhan o'r trafodaethau am ddyraniad blynyddol byd llywodraeth leol, mae disgwyl y byddwn ni'n arbed 1% o'r grant (tua £38 miliwn y flwyddyn) trwy effeithlonrwydd. Mae hynny cyfwerth â chynnydd o 4% yn nhreth pob cyngor yng Nghymru bob blwyddyn. Yng ngoleuni'r sefyllfa ariannol bresennol, pe bai Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi'r arian hwnnw yn ôl i'r cynghorau, byddai'n helpu i osgoi baich ychwanegol ar eu trethdalwyr sy'n ei chael hi'n anodd yn barod.
Dyw'r cynghorau ddim yn ceisio osgoi'r gofyn i weithio'n fwy effeithlon trwy hyn ond, yn hytrach, maen nhw am roi'r arbedion sy'n deillio o effeithlonrwydd i'w trethdalwyr. Y gwir yw bod y cynghorau wedi gorfod arbed llawer mwy nag 1% trwy effeithlonrwydd i ddod i ben â'u cyllidebau bob blwyddyn a bydd rhaid iddyn nhw barhau i wneud hynny am beth amser i ddod. Yr hyn rydyn ni'n gofyn amdano nawr yw i Lywodraeth y Cynulliad ailfuddsoddi arian i'n helpu i gadw'r cynnydd yn ein trethi o dan drefn. Yn hyn o beth, efallai yr hoffai ystyried defnyddio ei daliannau gan fod disgwyl y byddan nhw'n codi at ryw £500 miliwn erbyn mis Mawrth 2011.
Mae amgylchiadau anghyffredin yn mynnu atebion arloesol. Gofynnon ni heddiw i gyngor economaidd cenedlaethol gael ei sefydlu i lywio Cymru trwy'r argyfwng economaidd presennol. O roi'r arian ychwanegol hwn ar gael, bydd modd gofalu bod y sector cyhoeddus yn cyfrannu'n llawn o ran helpu pobl trwy'r anawsterau economaidd difrifol sydd gyda ni ar hyn o bryd.”
