Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Datganiadau i'r wasg / Cynhadledd Flynyddol WLGA 2009
 

Cynhadledd Flynyddol WLGA 2009

19 Mehefin 2009

Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghanol y Storm


25ain Mehefin 2009, Stadiwm Liberty, Abertawe

Bydd ysgolheigion blaengar y byd ariannol, arweinyddion byd busnes a llywodraeth y DG a hoelion wyth y cyfryngau yn Abertawe yr wythnos nesaf i gnoi cil ar oblygiadau'r dirwasgiad byd-eang i gymunedau Cymru yn ystod cynhadledd fwyaf sector gwladol Cymru.

Cyd-destun Cynhadledd Flynyddol WLGA eleni yw'r sefyllfa ariannol anhawsaf mae byd llywodraeth leol ynddi ers yr Ail Ryfel Byd. Felly, bydd safon y siaradwyr a'r trafodaethau'n uchel iawn.

Mae'r rhagolwg yn wael o ran gwariant gwladol dros y blynyddoedd nesaf a bydd yr awdurdodau lleol yn wynebu rhai anawsterau mawr ynglŷn â maint ac ansawdd eu gwasanaethau. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i dros 350 o bobl glywed sylwadau gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad ac arweinyddion byd masnachol y DG ynghylch ymdopi â'r sefyllfa economaidd ymestynnol a chreu'r amgylchiadau priodol ar gyfer yr adferiad. Dyma rai o'r siaradwyr:

• Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog
• Andrew Davies, Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
• Brian Gibbons, Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chyfiawnder Cymdeithasol
• Y Cynghorydd John Davies, Arweinydd WLGA
• Adam Price AS
• Yr Athro Tony Travers, Ysgol Economeg Llundain
• Yr Athro Kevin Morgan, Prifysgol Caerdydd
• Yr Athro Siobhan McClelland, Prifysgol Morgannwg
• Yr Athro John Seddon, Prifysgol Caerdydd
• Yr Athro David Egan , Sefydliad Prifysgol Cymru, Caerdydd
• Richard Lambert, Prif Gyfarwyddwr y CBI
• Alison Ward, Cadeirydd SOLACE Cymru
• Kirsty Williams AC
• Huw Lewis AC
• Nick Ramsay AC

Bydd prif sesiynau'r gynhadledd yn ymwneud ag effaith y dirwasgiad ar gymunedau Cymru mewn tri maes: adfywio, iechyd ac addysg. Yn ystod y sesiynau penodol, bydd cyfle i drafod pob un o'r meysydd hynny'n fanylach gydag ysgolheigion blaengar.

Dyma'r tri sesiwn penodol:

• Adfywio cymunedau Cymru – bydd modd clywed rhagor am yr ymchwil mae WLGA wedi'i chomisiynu i effaith y dirwasgiad ar Gymru.
• Gwella iechyd a lles i greu cymunedau bywiog a ffyniannus.
• Cau'r bwlch rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol – allwn ni dorri'r cylch?


Mae rhaglen y gynhadledd ar:
http://www.wlga.gov.uk/english/events/wlga-annual-conference-2009/

Fydd dim tâl ar y cyfryngau. Os ydych chi'n perthyn i'r wasg ac yn bwriadu mynd i'r gynhadledd, dylech chi gadarnhau hynny erbyn dydd Llun 22ain Mehefin.


Diwedd

Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks

< yn ôl