06 Mai 2008
Mae dau o weithwyr cynghorau Cymru wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth 'Gweithiwr Cyngor y Flwyddyn 2008'.
Meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:
“Hoffwn i longyfarch y ddau swyddog o Sir Ddinbych a Sir y Fflint am gyrraedd rhestr fer cystadleuaeth o fri. Mae gweithwyr cynghorau Cymru yn cyflawni gorchwylion ymestynnol ac yn gyfrifol am y gwasanaethau mae cymunedau yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Mae'u brwdfrydedd a'u hymroddiad yn y rôl yn hollbwysig i gynnig gwasanaethau gwell er lles cymunedau lleol.”
“Mae sawl enghraifft o weithwyr cynghorau yn mynd ati i effeithio'n sylweddol ar gymunedau a'u trigolion er gwell. Fel Cynllun Rhagoriaeth Cymru WLGA, mae'r gystadleuaeth yma'n cydnabod yr hyn mae staff cynghorau Cymru yn ei gyflawni a'u rôl bwysig. Mae'n dda gyda fi fod eu hymdrechion eithriadol a'u gwaith da wedi'u canmol mewn cystadleuaeth ar gyfer y DG i gyd.”
Nodiadau i olygyddion
• Mae Garry Davies yn aelod o Dîm Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych. Mae e ar restr fer categori 'Dewrder' am geisio achub rhywun yn y môr oddi ar Draeth Barkby, Prestatyn, fis Rhagfyr 2007.
• Mae Joyce Roberts yn un o weithwyr cymorth gofal gartref Cyngor Sir y Fflint. Mae hi wedi treulio 33 blynedd yn gofalu am bobl fregus ei bro. Mae hi ar restr fer categori 'Gwasanaeth Gydol Oes' am ei gwaith yng ngwasanaeth gofal gartref y cyngor.
• Mae'r enillydd i'w ddewis trwy bleidleisio cyhoeddus ac mae'r canlyniad i'w gyhoeddi yn ystod Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr yn Bournemouth ar 3ydd Gorffennaf 2008.
• Gallwch chi fynegi'ch cefnogaeth dros Garry, Joyce a'ch cyngor lleol trwy'r wefan (www.localgovernmentchannel.com/awards) neu SMS at 80039, gan roi'r cyfeirnod LGATV#8211. Rhaid pleidleisio erbyn canol dydd 3ydd Gorffennaf 2008.
• Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am Garry neu Joyce, gan gynnwys ffilm o'u gwaith, trwy gyrchu www.localgovernmentchannel.com
Mae rhagor o wybodaeth gan:
Natasha Weeks, Swyddog WLGA dros y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ffôn: 029 2046 8673 Ffôn poced: 07747 535388
Ebost: natasha.weeks@wlga.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks
