07 Mai 2008
Bedwar mis cyn cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen mae disgwyl eiddgar amdano, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn ychwanegol ar gael i'r trefniadau arbrofol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu datganiad Jane Hutt ac yn dal i gefnogi egwyddorion y fenter, ond mae pryder o hyd am fod diffyg ariannol enfawr yn ei chylch.
Mae WLGA ac ADEW wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y Cynulliad dros y 6 mis diwethaf, gan ddweud drwy'r amser bod eisiau £30 miliwn i gyflwyno'r fenter yn llwyddiannus yn ystod 2008-09. Dyna'r ffigur sydd wedi'i grybwyll yn adroddiad Is-gylch Llywodraeth y Cynulliad/WLGA dros Wariant ac yng Nghyllideb Amgen WLGA ar gyfer Gwasanaethau Rheng Flaen. Hyd yn oed ar ôl cynnwys y £5 miliwn ychwanegol, bydd diffyg o £10 miliwn ledled Cymru.
Beirniadodd y Gweinidog yr awdurdodau lleol am fethu â rhoi'r wybodaeth briodol, ond mae'n codi sgwarnog. Roedd gan Lywodraeth y Cynulliad yr wybodaeth y gofynnodd amdani yn barod ac fe nododd yr Is-gylch dros Wariant y costau i gyd yn 2007. Y gwir yw nad oes digon o arian i roi'r Cyfnod Sylfaen ar waith yng Nghymru.
Diwedd
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks, Swyddog WLGA dros y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus. Ffôn: 029 2046 8673 Ffôn poced: 07747 535388 Ebost: natasha.weeks@wlga.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks
