Mae'n bryd inni werthfawrogi'r gwasanaethau cymdeithasol, yn ôl WLGA
04 Medi 2008
Y cynghorau lleol sydd yn y sefyllfa orau i roi gofal a chymorth priodol i bobl sy'n agored i niwed ledled Cymru. Atgyfnerthodd WLGA y neges allweddol honno heddiw ar ôl gwrthod honiadau rhai o aelodau'r Cynulliad nad yw gwaith y gwasanaethau cymdeithasol yn ddigon da yn sgîl trafodaeth yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Meddai'r Cyng. Meryl Gravell (Sir Gâr), Llefarydd WLGA dros y Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Casgliad adroddiad diweddaraf Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) oedd bod gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol wedi parhau i wella dros y flwyddyn ddiwethaf a bod safon sylfaenol eu gwaith wedi'i chodi.”
“Mae'n bwysig cadw golwg ar drefniadau gwella'r awdurdodau lleol a dylai'r broses honno fod yn un ymestynnol, cadarn ac adeiladol er mwyn gwella'r gwasanaethau. Er bod y darlun cyffredinol ledled y wlad yn dangos bod y gwasanaethau cymdeithasol wedi gwella, mae'n anochel y bydd adroddiadau cadw golwg yn nodi peth amrywio. Dyw hynny ddim yn golygu, fodd bynnag, nad yw arweinyddion, trefniadau cyfnewid arferion a phartneriaethau rhyw gyngor yn effeithiol o ran hwyluso gwelliannau cyffredinol dros y tymor hir. Mae proses cadw golwg Cyngor Caerdydd wedi ennill gwobrau a chydnabyddiaeth Canolfan y DG dros Graffu Cyhoeddus ac mae hynny'n dangos bod y cyngor ar y trywydd iawn ynglŷn â gwella gwasanaethau.”
“Rydyn ni'n derbyn y dylai'r cyfryngau dynnu sylw at unrhyw dangyflawni ond aeth rhai o adroddiadau'r wasg yr wythnos yma dros ben llestri a dweud y lleiaf. Mae tystiolaeth y cyrff rheoleiddio ac arolygu annibynnol yn dangos bod y cynghorau'n gwasanaethu'r bobl yn dda. Er gwaethaf ein llwyddiannau lu, mae llawer o sylw ar ddiffygion rydyn ni wrthi'n eu cywiro trwy brosesau effeithiol a thryloyw.”
“Mae'n arfer lladd ar y gwasanaethau cymdeithasol y dyddiau yma, waeth faint mae'r gweithwyr yn ei wneud i'w gwella neu gynnal amryw wasanaethau cymhleth mewn sefyllfa ariannol fwyfwy anodd. Efallai y dylai gwleidyddion ein gwlad ddweud cymaint am y gwelliannau go iawn sydd yng Nghymru yn lle beirniadu gwasanaethau allweddol o'r fath yn ddi-baid. Afraid dweud na fydd yr arfer hwnnw'n rhoi hwb i galonnau'r staff sy'n gwneud eu gorau glas i gyflawni eu gwaith ymestynnol.”


