Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Teyrnged WLGA i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Teyrnged WLGA i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd

02 Tachwedd 2009

Gan ymateb i gyhoeddiad Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, Byron Davies, heddiw y bydd yn ymddeol, meddai Arweinydd WLGA, y Cyng. John Davies:

“Mae Byron yn un o hoelion wyth byd llywodraeth leol ers dau ddegawd. Mae'n brif weithredwr uchel ei barch yn y brifddinas a thrwy Gymru i gyd.

Mae e wedi cymryd rhan flaengar ynglŷn â throi Caerdydd yn un o ddinasoedd pwysig Ewrop. Mae'r amryw ddatblygiadau newydd a phrosiectau adfywio mawr ledled y ddinas – a ddaeth yn sgîl cydweithio'n agos â gwleidyddion o bob lliw a llun – yn dystiolaeth o'r modd mae Byron wedi gwasanaethu'r cyngor pwy bynnag fu wrth y llyw. Ar ran arweinyddion gwleidyddol yn WLGA, dyma ddymuno iddo oes hir a llwyddiannus ar ôl ymddeol a diolch iddo am gyfrannu'n sylweddol ym maes llywodraeth leol yng Nghaerdydd ac ar lwyfan ehangach Cymru a'r DG.”

Meddai Prif Weithredwr WLGA, Steve Thomas:

"Ac yntau'n un o brif weithredwyr mwyaf profiadol Cymru, mae Byron wedi helpu WLGA yn fawr ac fe fuodd yn fraint cydweithio'n agos ag e. Un o'i gryfderau oedd ei weledigaeth i ddatblygu Caerdydd yn y cyd-destun rhyngwladol yn ogystal â'i waith dyfal i hybu delwedd ac enw da'r ddinas. Ar ben hynny, mae'i gyfraniad i SOLACE a'r modd arweiniodd Ffederasiwn Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol Ewrop (UDITE) wedi'u hedmygu ledled byd llywodraeth leol. Felly, diwedd oes fydd ei ymddeol.

A siop John Lewis ar agor bellach a Chanolfan Dewi Sant yn gweddnewid canol y ddinas, mae Byron yn dewis gadael Cyngor Caerdydd. O ystyried faint o brosiectau hysbys sydd ledled y ddinas, megis stadiwm newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, yn ogystal â'r datblygiadau tymor hwy megis adfywio Bae Caerdydd, mae hanes ei gyflawniad yn arbennig o dda. Dyma estyn pob dymuniad da a diolch iddo'n bersonol ac ar ran uwch swyddogion 22 gyngor y wlad."

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl