10 Tachwedd 2008
Mae arweinyddion 22 gyngor Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y Cynulliad gymryd camau'n feiddgar i helpu trethdalwyr y cynghorau ledled y wlad ac ailystyried rhaglen 'Cymru'n Un' yng ngoleuni'r sefyllfa ariannol ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn tynnu 1% oddi wrth yr arian mae'n ei roi i fyd llywodraeth leol trwy fynnu arbedion effeithlonrwydd ond mae WLGA heddiw yn gofyn iddi roi'r arian hwnnw – £38 miliwn, sydd cyfwerth â chynnydd o 4% yn nhreth cynghorau Cymru – yn ôl i'r trethdalwyr trwy helpu'r cynghorau i gadw'r cynnydd yn eu trethi cyn lleied ag y bo modd. Yn wir, mae hyn yn cyd-fynd â sylwadau Prif Weinidog y DG, Gordon Brown, yn ddiweddar bod 'angen sbardun ariannol i helpu i ostwng cyfraddau llog.’
Mae'r cais heddiw yn dod yn sgîl dyraniad gwael arall i fyd llywodraeth leol ac, os na chân nhw gymorth ychwanegol, bydd arweinyddion y cynghorau'n gorfod ystyried codi eu trethi o 5% ledled Cymru i wneud iawn am y diffyg.
Meddai'r Cyng. John Davies (Sir Benfro), Arweinydd WLGA:
“Er gwaetha'r trafodaethau cadarnhaol yng Nghynhadledd Economaidd Cymru yn ddiweddar, y cam cyntaf y gall Llywodraeth y Cynulliad ei gymryd yw helpu byd llywodraeth leol i bennu cyfraddau is ar gyfer treth y cynghorau trwy roi arian ychwanegol pan fo'r cynnydd yn ei dyraniad yn is na lefel y chwyddiant – 5.2% ar hyn o bryd. Byddai hynny o les yn syth i gymunedau Cymru a fyddai'n croesawu effaith o'r fath. Mae cyfle euraidd i Lywodraeth y Cynulliad wneud hynny cyn cau pen y mwdwl ar ei chyllideb fis Rhagfyr.”
“Fyddai neb ar ei golled pe bai Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi'r £38 miliwn sydd wedi'u harbed trwy effeithlonrwydd – neu ran sylweddol o'r swm hwnnw – yn ôl i drethdalwyr y cynghorau. Cyfraniad unigryw Cymru at bobl sy'n wynebu biliau drutach a phroblemau ariannol fyddai hynny, a byddai'n dangos bod pob haen o lywodraeth etholedig Cymru yn gwneud ei gorau glas i helpu ei chymunedau. Mae'r cynghorau'n arbed llawer mwy na'r disgwyl yn barod trwy effeithlonrwydd a gallwn ni sicrhau'r bobl na fydd eu gwasanaethau'n waeth o ganlyniad. Fel y dywedodd Canghellor y Trysorlys, Alistair Darling, mae'n bryd rhoi rhagor o arian i'r economi ehangach.”
Meddai'r Cyng. Rodney Berman (Caerdydd), Llefarydd WLGA dros Faterion Ariannol:
“Yng ngoleuni'r dirwasgiad economaidd, rydyn ni'n gofyn i Lywodraeth y Cynulliad ailystyried rhaglen a blaenoriaethau 'Cymru'n Un', hefyd. Mae rhai pobl ym myd llywodraeth leol wedi bod yn pryderu na fydd digon o arian i'w cyflawni. Yn y sefyllfa ariannol rydyn ni ynddi, dylen ni fwrw golwg eto dros raglen gafodd ei llunio bron i ddwy flynedd yn ôl pan oedd cyflwr yr economi'n well o lawer.”
“Gan fod disgwyl y bydd rhagor o ddiweithdra a chwyddiant a fawr ddim twf yn yr economi, rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ailasesu ei blaenoriaethau a gofalu bod digon o adnoddau i wasanaethau rheng flaen megis tai, gofal cymdeithasol, gwastraff ac addysg.”
“Bydd cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn crebachu eto fyth dros y blynyddoedd i ddod ac, felly, mae'n hanfodol i bob rhan o sector cyhoeddus Cymru ystyried y goblygiadau'n ofalus a phwyso a mesur sut gallwn ni ymdopi â'r bwlch cynyddol rhwng faint o arian sydd ar gael a faint sydd i'w wario i gynnal y gwasanaethau presennol. Mae gwir angen trafodaeth am hyn gyda Llywodraeth y Cynulliad ac ymhlith ei phartneriaid.”
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks
