Dyletswydd gwasanaethau cymdeithasol i helpu'r rhai sy'n gadael gofal
13 Gorffennaf 2011
Gan ymateb heddiw i adnodd ac adroddiad mae Comisiynydd Plant Cymru wedi'u cyhoeddi i helpu awdurdodau lleol a'u partneriaid i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed, meddai'r Cyng. Meryl Gravell, Llefarydd WLGA dros y Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn effro i'w rôl yn rhiant corfforaethol a'i gyfrifoldeb o ran diogelu plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yn eu cymunedau. Er bod mwy o alw nag erioed am wasanaethau i blant a bod cost gofal yn cynyddu'n fawr, rydyn ni'n gweithio'n well o ran ansawdd y gofal sydd ar gael a'r amrywiaeth o leoedd i blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed.
Mae'r arferion wedi datblygu'n fawr dros y blynyddoedd diwethaf hyn ac mae'r parhad yn y gyfundrefn a'r tu allan iddi wedi gwella o dipyn. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cynnal cysylltiadau â'r rhai sydd wedi gadael eu gofal ac mae gan bob cyngor dimau gadael gofal, gwasanaethau eirioli, swyddogion hawliau plant a chynghorwyr dros wasanaethau i blant. I ofalu bod plant dan ofal yn cael y cyfle gorau i gyflawni eu llawn dwf, mae ymgynghorwyr addysgol ar eu cyfer ym mhob cyngor.
At hynny, mae'r awdurdodau lleol yn cydweithio â'i gilydd mwy nag erioed bellach trwy gonsortia gwasanaethau cymdeithasol. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn cydweithio'n agos â'i gilydd, â'u cyfatebion nhw ym meysydd addysg a thai ledled byd llywodraeth leol ac â phartneriaid allanol i ofalu bod anghenion plant sy'n agored i niwed a'r rhai sy'n gadael gofal yn cael eu deall yn llwyr a'u diwallu.”
Gan sôn am sefyllfa ariannol y gwasanaethau blant, meddai'r Cyng. Gravell:
“Er ein bod yn gweithio'n well, rydyn ni'n wynebu talcen caled o ran arian. Mae mwy a mwy o alw am wasanaethau ond llai a llai o adnoddau i'w ateb. Bydd coffrau'r wlad yn crebachu dros y blynyddoedd nesaf ac, felly, bydd rhaid inni gael gwerth ein harian ni wrth gomisiynu lleoedd a helpu i ddatblygu dewisiadau yn y farchnad.”
Meddai Parry Davies, Llywydd ADSS Cymru:
“Mae ADSS Cymru ac WLGA yn cydweithio'n agos â Chomisiynydd Plant a Llywodraeth Cymru a byddwn ni'n edrych yn fanwl ar argymhellion yr adroddiad i bennu sut gall yr awdurdodau lleol ymateb yn well i hawliau pobl ifanc a'u paratoi i fyw'n annibynnol.
Rydyn ni'n cydnabod bod plant wedi bod trwy gyfnod anodd cyn dod o dan ein gofal ni, a'n gwaith ni wedyn yw eu paratoi nhw i fyw'n annibynnol.
Nid dewis yw diogelu plant – mae rhaid inni wneud hynny yn rhinwedd ein rôl yn rhieni corfforaethol. Mae gyda ni dri nod eglur o ran gweithio'n well: cytuno i ganolbwyntio ar wella byd plant a phobl ifanc; cydweithio i ddefnyddio adnoddau prin awdurdodau lleol yn well; cydweithio i adlunio gwasanaethau ledled Cymru fel y bydd plant a phobl ifanc mewn cartrefi priodol a sefydlog o'r radd flaenaf.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
1. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli'r 22 awdurdod lleol ac mae awdurdodau'r 4 heddlu, y 3 gwasanaeth tân ac achub a'r 3 pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
2. ADSS Cymru (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) – Dyma'r corff sy'n arwain gwasanaethau a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Prif ddiben ADSS Cymru yw dod â'i haelodau at ei gilydd i hybu ei hegwyddorion a'i hamcanion. Mae ADSS Cymru yn hybu buddiannau oedolion a phlant y wlad ymhlith adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff llywodraeth leol, asiantaethau statudol a'r cyhoedd.
3. Canlyniadau'r dangosyddion:
Dangosydd 2008-09 2009-10
- Canran y rhai adawodd ofal sy'n dal cysylltiadau â'r awdurdod yn 19 oed 91% 97%
- Canran y rhai adawodd ofal sydd mewn llety addas 89% 92%
- Canran y rhai adawodd ofal sydd â chynllun llwybr ar gyfer y cyfnod perthnasol 85% 89%
- Canran y rhai adawodd ofal mae ymgynghorydd personol wedi'i neilltuo iddyn nhw ar gyfer y cyfnod perthnasol 91% 93%


