20 Tachwedd 2008
Mae arweinyddion a phrif weithredwyr awdurdodau lleol y de-orllewin wrthi'n ystyried cynllun gweithredu fydd yn cryfhau ac yn datblygu rôl y sector gwirfoddol ynglŷn â chynnig gwasanaethau cyhoeddus yn y rhanbarth.
Mewn cyfarfod yn Sir Gâr yr wythnos hon, cytunodd arweinyddion a phrif weithredwyr y pedwar cyngor i fanteisio ar bob cyfle i gydweithio'n agosach â'r trydydd sector er mwyn gwella gwasanaethau ledled y rhanbarth ac arbed rhagor o adnoddau trwy weithio'n fwy effeithlon.
Wrth lywio'r cyfarfod, meddai'r Cyng. Meryl Gravell (Sir Gâr):
“Mae cysylltiadau da â'n partneriaid ni yn y trydydd sector yn barod yn y rhanbarth yma, wrth gwrs. Roedd y 'Ffair Ariannu Ranbarthol' gynhalion ni eleni – y gyntaf o'i bath yng Nghymru – yn llwyddiant ysgubol ac fe sbardunodd gydweithio rhanbarthol rhwng byd llywodraeth leol a'r trydydd sector. Mae'n dda gyda fi gyhoeddi y byddwn ni'n cynnal achlysur arall yn ystod 2010 lle bydd gwybodaeth a chyngor cyfoes am ariannu ar gael yn rhad ac am ddim i elusennau, cylchoedd cymunedol a mudiadau gwirfoddol.”
Mae cydweithio'n hanfodol i wella'r hyn mae'n gwasanaethau ni'n ei wneud ledled y rhanbarth. Rydyn ni'n canolbwyntio ar y canlyniadau, nid y prosesau. Un maes lle rydyn ni'n rhag-weld y bydd rôl gryfach i'r trydydd sector yw'r Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol sefydlon ni i ddod â'r rhai sy'n ymwneud ag addysg uwch, addysg bellach ac addysg yn y gwaith at ei gilydd, yn ogystal â'r awdurdodau lleol, i gynnig cyfleusterau a gwasanaethau gwell i bobl sydd am ddysgu.”
Yn ystod y cyfarfod, cytunodd aelodau Fforwm Partneriaeth Ranbarthol y De-orllewin i edrych ar fanteision cynnal gwasanaethau cyfreithiol ar y cyd yn y rhanbarth, hefyd. Yr wythnos nesaf, fe fyddan nhw'n clywed am brofiad Cyngor Sirol Suffolk sydd wrthi'n datblygu trefniadau ar gyfer cynnal gwasanaethau cyfreithiol ar y cyd â saith cyngor dosbarth y sir.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks
