Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Mae gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn flaenoriaeth, yn ôl WLGA
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Mae gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn flaenoriaeth, yn ôl WLGA

10 Tachwedd 2009

Mae WLGA wedi croesawu heddiw adroddiad blynyddol Comisiynydd Materion Plant Cymru am safon y gwasanaethau i blant a phobl ifanc.

Meddai Arweinydd WLGA, y Cyng. John Davies (Sir Benfro):

“Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arferion da awdurdodau lleol Cymru ynglŷn â rhoi gwasanaethau i blant a phobl ifanc megis cwnsela yn yr ysgolion, ad-drefnu fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol yr ysgolion a datblygu gwasanaethau eirioli.

Trwy'r cynlluniau ar gyfer plant a'r ifainc, mae adrannau'r awdurdodau lleol yn cydweithio â'i gilydd ac asiantaethau allanol i ofalu bod eu gwasanaethau'n ymateb i anghenion lleol.

Rydyn ni'n falch bod yr adroddiad yn sôn am y ffaith bod eisiau rhagor o gydweithio ymhlith yr asiantaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant a'r ifainc ac y dylai pawb ysgwyddo cyfrifoldeb am hynny. Mae WLGA wedi dweud ers tro fod rhaid i sector cyhoeddus Cymru rannu cyfrifoldeb am gynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc ac y dylai pob partner ymrwymo i gydweithio.

Er bod llawer i'r awdurdodau lleol fod yn falch ohono ynghylch eu cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, rydyn ni'n cydnabod bod eisiau datrys rhai problemau o hyd megis gwella safonau'r gwaith eto fyth a chysoni'r amrywio ynglŷn â'r safonau hynny, er y bydd llai o arian ar gael.

Mae'r dyraniad ariannol i fyd llywodraeth leol eleni yn awgrymu y bydd yr awdurdodau lleol yn wynebu talcen caled iawn dros y blynyddoedd nesaf. Roedd y blynyddoedd diwethaf hyn yn ddigon anodd ond, trwy weithio'n fwy effeithlon, cydweithio a blaenoriaethu adnoddau, llwyddodd yr awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau hanfodol megis y rhai i blant a'r ifainc. Mae cyrff ar draws y sector cyhoeddus yn gorfod ailystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.

Mae gwella gwasanaethau i blant a'r ifainc yn flaenoriaeth o hyd i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Maen nhw am wella byd plant a phobl ifanc a threchu tlodi ymhlith plant yn y pen draw. Cytundeb y Cenhedloedd Unedig am Hawliau Plant sy'n cyfeirio gwasanaethau i blant a phobl ifanc o hyd yng Nghymru a buddiannau plant a'r ifainc sydd wrth wraidd y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig. Ar ben hynny, mae pob un o awdurdodau lleol Cymru yn parhau i hybu'r syniad o gynnwys plant a phobl ifanc ym mhroses paratoi'r cynlluniau ar eu cyfer.”

Mae'r adroddiad ar: www.childcomwales.org.uk

Diwedd

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl