Rhybudd WLGA ac ADSS Cymru – Rhaid rhannu cyfrifoldeb am ddiogelu plant i gynnal safonau
20 Hydref 2009
Rhybuddiodd WLGA ac ADSS Cymru heddiw y gallai safonau ostwng pe na bai sector cyhoeddus Cymru yn rhannu cyfrifoldeb am ddiogelu plant ac yn mynnu i bob partner wneud ei siâr.
Gan ymateb i'r adroddiad am wasanaethau i blant gyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) heddiw, meddai'r Cyng. Meryl Gravell (Sir Gâr), Llefarydd WLGA dros y Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Dylai pawb ysgwyddo cyfrifoldeb am ddiogelu plant, nid dim ond gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol. Rydyn ni'n annog ein partneriaid yn y sector cyhoeddus megis y GIG, Llywodraeth y Cynulliad, yr heddluoedd a chyrff cyfiawnder yr ifainc i ymddiddori yn y maes. O fethu a gwneud hynny, gallai'r safonau ostwng.
Mae'r adroddiad gyhoeddodd y CSSIW heddiw yn cadarnhau bod pob asiantaeth yn gweithio'n dda ynglŷn ag ymateb i'r peryglon mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, ac yn tynnu sylw at y trefniadau a phrosesau gwell mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol Cymru wrthi'n eu sefydlu i ddiogelu plant a gofalu amdanyn nhw'n well.
Mae dangosyddion llywodraeth leol eleni (2008-09) yn atgyfnerthu hynny ac yn cyfleu'r ffaith bod y gwasanaethau i blant wedi ymateb i'r her trwy wella'n sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”
Gan sôn am y prif heriau i'r gwasanaethau cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf, meddai:
“Mae llawer inni fod yn falch ohono yn yr adroddiad yma a rhaid canmol y gweithwyr cymdeithasol sy'n parhau i weithio'n ddyfal gyda theuluoedd i ddiogelu plant. Trwy gamu i mewn yn brydlon, maen nhw'n diogelu llawer o blant, yn cynorthwyo llawer o deuluoedd ac yn hwyluso diogelwch ac annibyniaeth i sawl bywyd bob blwyddyn. Dyw hynny ddim yn golygu nad oes eisiau gwella eto fyth, fodd bynnag, ac mae Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i roi cymorth i'r awdurdodau lleol mewn meysydd sydd wedi'u nodi'n rhai mae angen eu gwella.
Mae'r awdurdodau lleol yn pwysleisio ers tro fod eisiau cydweithio'n well i ymdopi â'r pwysau cynyddol ar wasanaethau ac adnoddau. Yn wir, maen nhw'n cydweithio'n well â'i gilydd yn barod i gyfnewid arferion da a gwella'r safonau trwy gysoni'r hyn sy'n cael ei gyflawni o'r naill ardal i'r llall. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae WLGA wedi cynnal nifer o drafodaethau gydag ADSS Cymru a'r CSSIW ac mae gwaith wedi mynd rhagddo bellach i gyfnewid gwybodaeth am faint sy'n cael ei wneud ym mhob bro a thrwy'r wlad i gyd.
Gofynnwn ni i Lywodraeth y Cynulliad gydweithio'n gryfach ynglŷn â diogelu plant trwy gynnwys byrddau diogelu plant ymhlith cyfrifoldebau'r comisiwn sydd i'w sefydlu dros ofal cymdeithasol.
Mae'r dyraniad arfaethedig welon ni'r wythnos ddiwethaf i fyd llywodraeth leol yn dystiolaeth y bydd yr awdurdodau lleol yn wynebu talcen caled dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn ond, trwy gydweithio'n well â'n gilydd a blaenoriaethu'n hadnoddau, rydyn ni wedi llwyddo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen pwysig megis y rhai i blant. Y gwir plaen, fodd bynnag, yw na fyddwn ni'n gallu parhau i wneud hynny yng ngoleuni'r ffaith y bydd llai o arian a rhagor o bwysau er bod adnoddau'n brin ym maes gofal cymdeithasol yn barod.”
Gan ymateb i'r adroddiad, meddai Neelam Bhardwaja, Llywydd ADSS Cymru:
“Mae ADSS Cymru yn croesawu'r adroddiad am ddiogelu plant gyhoeddodd CSSIW heddiw. Mae'n dda gyda fi fod yr adroddiad yn dweud bod gweithwyr a gwasanaethau cymdeithasol ar flaen y gad o ran diogelu plant a bod plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yng Nghymru yn cael eu diogelu'n effeithiol pan ddaw achosion o'u cam-drin i'r amlwg.
Rydyn ni'n cydnabod mai un o brif negeseuon yr adroddiad yw bod angen i bawb yn yr awdurdodau lleol a'r asiantaethau allanol bennu diogelu plant yn flaenoriaeth barhaol er lles plant sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas ni. Rydyn ni am gydweithio'n well fyth er lles plant a phobl ifanc ac yn cydnabod y bydd eisiau cyflwyno tystiolaeth o hynny nid yn unig trwy'r hyn sy'n deillio o'n gwaith ond hefyd trwy bolisi canolog cydlynol.”
Dyma ragor o wybodaeth am yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi heddiw: Safeguarding and Protecting Children in Wales
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Dyma'r prif welliannau ddaeth i'r amlwg trwy ddangosyddion 2008-09:
• Prosesodd y gwasanaethau i blant 95% o'u hachosion newydd cyn pen diwrnod gwaith o'i chymharu â 93% yn 2007-08 – cadarnhad bod y sefyllfa'n dal i wella ers rhai blynyddoedd, bellach.
• Roedd gan 92% o blant ddaeth dan ofal awdurdod lleol gynllun gofal erbyn eu cartrefu cyntaf – yr un faint â'r llynedd ac yn uwch na'r ddwy flynedd flaenorol.
• Cafodd 91.4% o'r adolygiadau o blant dan ofal eu cynnal o'i chymharu ag 89.8% yn 2007-08.
• Gostyngodd canran y plant dan ofal gafodd eu cartrefi deirgwaith neu ragor yn ystod y flwyddyn at 9.7% o'i chymharu â 10.3% yn 2008-09.
• Yn yr un modd, gostyngodd canran y plant dan ofal newidiodd ysgol unwaith neu ragor yn ystod y flwyddyn at 13.5% o'i chymharu â 14.4% yn y flwyddyn flaenorol.
• Gostyngodd canran y plant dan ofal awdurdod lleol adawodd yr ysgol heb yr un cymhwyster at 12.1% o'i chymharu â 14% yn 2006-07 a 18.1% yn 2005-06. Mae hynny'n dangos pa mor gryf mae byd llywodraeth leol wedi ymroi i'w rôl yn rhiant corfforaethol.
• Prif gorff Cymru ynglŷn ag arwain gwasanaethau a gofal cymdeithasol yw ADSS Cymru. Ei brif ddiben yw dod â'i aelodau at ei gilydd i hybu ei egwyddorion a'i amcanion. Mae ADSS Cymru yn hybu buddiannau'r gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant ymhlith Llywodraeth y Cynulliad, byd llywodraeth leol, yr asiantaethau statudol a'r cyhoedd.


