Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Datganiadau i'r Wasg / Rhoi’r cwsmer yn gyntaf yn llyfrgelloedd Cymru
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Rhoi’r cwsmer yn gyntaf yn llyfrgelloedd Cymru

18 Medi 2008

Band llydan am ddim, gwasanaethau ar-lein am ddim, ymuno am ddim, staff cyfeillgar wrth law ac amrywiaeth helaeth o lyfrau a deunyddiau eraill ar gael yn lleol. O heddiw ymlaen, fe gewch chi hyn i gyd yn eich llyfrgell gyhoeddus leol. Bydd y set gyntaf o 'hawliau dinasyddion i ddefnyddio'r llyfrgelloedd' a gafodd ei chyflwyno heddiw yn Llyfrgell Caernarfon yn gofalu y byddwch chi'n gwybod beth y gallwch chi ei ddisgwyl yn eich llyfrgell leol, ble bynnag y boch chi yn y wlad.

Mae rhagor ar y gweill gan fod y llyfrgelloedd wrthi'n cyflawni addewidion eraill i roi’r defnyddiwr wrth wraidd y gwasanaeth. Byddan nhw'n ychwanegu tair hawl arall dros y tair blynedd nesaf fel y bydd yn haws fyth ichi ddefnyddio’r llyfrgell.

Mae’r hawliau hyn wedi eu datblygu ar y cyd gan Lywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru.

Meddai Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad:

“Mae'r llyfrgelloedd yn cyflawni rôl hanfodol yn ein cymunedau trwy roi gwybodaeth ac adnoddau am ddim a chynnig man hwylus yn y fro ar gyfer dysgu, cwrdd â ffrindiau a threulio amser, ymhell o brysurdeb bywyd.”

“Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i gydweithio â'n partneriaid ym myd llywodraeth leol i ofalu bod llyfrgelloedd yn parhau i gyflawni'r rôl honno ac yn dal yn berthnasol i fywyd cyfoes Cymru. Mae’r hawliau'n rhan o raglen waith a buddsoddi parhaus i greu gwasanaeth llyfrgelloedd sydd wedi'i drefnu yn ôl anghenion defnyddiwr yr 21ain ganrif – cyfeillgar, hyblyg a hawdd ei ddefnyddio. Mae'n arbennig o briodol bod yr hawliau yma'n cael eu cyflwyno yn ystod Blwyddyn Genedlaethol Darllen, hefyd.”

Esboniodd y Cyng. Dyfed Edwards (Gwynedd), Llefarydd WLGA dros Faterion Diwylliannol, beth mae'r hawliau hyn yn eu golygu i’r defnyddiwr:

“Un o’r pethau sy’n bodloni pobl yn eu bro yw llyfrgell gyhoeddus mae’n hawdd ymuno â hi, lle cân nhw fenthyg mwyafrif yr adnoddau yn hawdd a lle mae staff gwybodus wrth law i'w helpu. Heddiw, rydyn ni'n cyhoeddi y bydd yr hawliau yma o fantais i'r rhai sy'n defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus y wlad."

“Mae'r llyfrgelloedd yn gweithio ar y cyd i wella gwasanaethau ymhellach. Felly, erbyn 2009, os nad yw llyfr ar gael yn y llyfrgell leol, cewch chi chwilio amdano o blith dros 4.5 miliwn o lyfrau sydd ar gael yn llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru a gofyn iddo gael ei anfon i’ch llyfrgell am ddim. Erbyn 2009, fydd dim tâl ar blant am ddod â llyfrau yn ôl yn hwyr – i osgoi eu rhwystro nhw rhag ceisio gwella safon eu darllen – ac, erbyn 2010, bydd modd i chi ‘fenthyg unrhyw le, a rhoi yn ôl unrhyw le’.”

“Mae 'Cymru’n Un' yn amlinellu’r angen i bob awdurdod lleol fuddsoddi yn ei lyfrgelloedd cyhoeddus, gan gynnig gwasanaethau cyfoes ac ymatebol y gall cymunedau lleol eu mwynhau. Mae’r hawliau newydd i ddefnyddio'r llyfrgell yn dangos bod awdurdodau lleol Cymru am weithio gyda’i gilydd a rhoi’r dinesydd yn gyntaf.”

Bydd yr 8 hawl i gyd wedi'u cyflwyno erbyn mis Ebrill 2010. Maen nhw'n rhan allweddol o raglen Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2008-11, 'Llyfrgelloedd am Oes'.

Anogir pobl ar draws Cymru i edrych o’r newydd ar yr hyn y gall eu llyfrgell ei gynnig, yn rhan o ymgyrch farchnata ar draws Cymru fydd yn cychwyn fis nesaf. Mae rhagor o wybodaeth ar: www.llyfrgell.cymru.org

Nodiadau i’r golygyddion:

• Mae'r rhan fwyaf o Hawliau Defnyddio Gwasanaethau'r Llyfrgelloedd Cyhoeddus wedi'u cyflwyno yn barod, gan gynnwys:

- Ymuno am ddim
- Benthyg llyfrau am ddim
- Defnyddio’r we a chyfrifiaduron am ddim
- Defnyddio adnoddau gwybodaeth ar-lein am ddim
- Staff cyfeillgar wrth law i'ch helpu

• O fis Ebrill 2009, fydd dim tâl ar blant am ddod â llyfrau yn ôl yn hwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd.
• O fis Ebrill 2009, bydd modd i bobl archebu llyfr am ddim.
• O fis Ebrill 2010, bydd modd i bobl fenthyg llyfr o unrhyw lyfrgell a'i roi yn ôl i unrhyw lyfrgell ar draws Cymru.
• Bydd pob dinesydd yng Nghymru yn cael manteisio ar yr hawliau i gyd erbyn mis Mawrth 2011.

Mae rhagor o wybodaeth gan:



< yn ôl