Arweiniad gwleidyddol ac arbenigol yn y gwasanaethau cymdeithasol – allwedd newid a gwella
18 Mehefin 2009
Dywedodd Gwenda Thomas AC, Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn cynhadledd genedlaethol mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi'i chynnal dros y ddau ddiwrnod diwethaf fod rhaid i wleidyddion ac arbenigwyr amlygu arweiniad cryf, atebol ac ymatebol i wella a newid y gwasanaethau cymdeithasol.
Gan amlinellu prif sbardunau newid a gwella o flaen dros 200 o bobl, meddai:
“Mae gwasanaethau cymdeithasol Cymru wedi gwella'n sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn dal o'r farn bod byd llywodraeth leol yn hanfodol ynglŷn â threfnu a chynnig gwasanaethau o'r fath. Rydyn ni'n cynnig ein gwasanaethau cymdeithasol ar ffurf unigryw yng Nghymru a gwasanaethau cyfun o dan adain byd llywodraeth leol yw'r ffordd ymlaen o hyd. Er bod peth cynnydd yn amlwg, fodd bynnag, dydyn ni ddim yn ddigon cyson eto. Dyw hi ddim yn ddigon da diogelu naw o bob deg o blant ac oedolion diamddiffyn. Rhaid inni geisio rhagori a mynd ati i wella'n ddi-baid.”
“Dyma gyfnod anodd, yn arbennig i'r alwedigaeth yma, a dylen ni fod yn ddiolchgar iawn i'r gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol nad yw eu hymroddiad i'w gwaith yn cael ei gydnabod yn ddigon aml ymhlith y cyhoedd, heb sôn am y cyfryngau y byddai'n well gyda nhw dynnu sylw at ambell fethiant cyfundrefnol na chanmol yr ymdrechion. Mae'n dda gyda fi fod yr adroddiad gyhoeddodd CSSIW a Swyddfa Archwilio Cymru ddoe yn cydnabod ymroddiad gweithlu gofal cymdeithasol Cymru a'i ymrwymiad i ddatblygu'n barhaus.”
Gan sôn am rôl hanfodol cyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â newid meddylfryd a gwella gwasanaethau, meddai'r Gweinidog:
“Mae eisiau gwneud rhagor i wella trefniadau rheoli perfformiad a threfnu/comisiynu gwasanaethau. Rydyn ni'n cynnig ein gwasanaethau cymdeithasol ar ffurf unigryw yng Nghymru a does dim lle i wasanaethau tameidiog – mae eisiau gwasanaethau cyfun arnon ni. Bydd addasu gwasanaethau yn ôl anghenion unigol yn bwysig o ran gwella deilliannau. Rhaid i'r defnyddwyr gael dweud eu dweud am y modd rydyn ni'n llunio ac yn cynnig gwasanaethau. Mae rôl cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol yn hanfodol ynglŷn â chreu a chynnal gwasanaethau o'r radd flaenaf a gofalu bod pawb yn gweithio yn ôl safon gyson. Dylai pob un o awdurdodau lleol Cymru adolygu trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ynglŷn â chynnig gwasanaethau sy'n diwallu anghenion unigol pobl leol.”
“Mae rôl hanfodol i'r rhai sy'n llywio gwasanaethau cymdeithasol Cymru ynglŷn â thrawsnewid yr alwedigaeth trwy hyrwyddo ei hegwyddorion, chwilio am ragor o gyfleoedd i gydweithio a chanolbwyntio ar ddulliau agored. Rhaid i rôl arwain y gwasanaethau cymdeithasol fod yn un uchel ei pharch ymhlith y staff a'r partneriaid.”
Wrth annerch y gynhadledd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n cyflwyno 'Canllawiau am Rôl ac Atebolrwydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol' ac yn sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried sut gallai'r gwasanaethau cymdeithasol ateb heriau'r degawd nesaf.
Gan ymateb i'w sylwadau, meddai'r Cyng. Meryl Gravell, Llefarwr WLGA dros y Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Dyma gyfnod ymestynnol i'r gwasanaethau cymdeithasol ac, ar ran byd llywodraeth leol Cymru, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am barhau i'n cefnogi ni.”
“Mae'n dda gyda fi fod yr adroddiad gyhoeddodd CSSIW a Swyddfa Archwilio Cymru ddoe yn cydnabod faint mae gwaith, safonau a dulliau'r alwedigaeth wedi gwella dros y 10 mlynedd diwethaf. Daeth y gwelliannau o ganlyniad i ymroddiad y rhai sy'n llywio'r gwasanaethau cymdeithasol a'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino i roi'r gwasanaethau mae pobl yn eu mynnu, gan wneud pob ymdrech i'w gwella drwy'r amser. Maen nhw'n benderfynol o fynd â'r maen i'r wal o ran trefnu gwasanaethau a diwallu anghenion, a dylai rhagor o bobl – yn arbennig y cyfryngau – gydnabod hynny. Rhaid i'r partneriaid gydweithio i newid barn y cyhoedd a'r cyfryngau am y gwasanaethau cymdeithasol trwy fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r llwyddiant rydyn ni'n llawn ei haeddu.”
“Rydyn ni'n derbyn bod digon i'w wneud eto, fodd bynnag, ac mae'r adroddiad yn pennu cerrig milltir eglur ynglŷn â'r camau mae rhaid eu cymryd i ychwanegu at y llwyddiant hwnnw.”
Gan ymateb i'r hyn ddywedodd y Gweinidog am angen rhagor o gydweithio ymhlith awdurdodau lleol a'u partneriaid, meddai'r Cyng. Gravell:
“Mae'r awdurdodau lleol mewn sefyllfa ariannol hynod anodd. Er bod y pwysau ar eu gwasanaethau'n cynyddu, dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd ar gael i'w cynnal. Mae llawer o gydweithio ledled y wlad i wella, ad-drefnu a moderneiddio'r gwasanaethau presennol ond rhaid inni wneud rhagor. Gan y bydd coffrau'r wlad yn crebachu dros y blynyddoedd nesaf, bydd angen i gynghorau Cymru gydweithio'n agosach â'i gilydd a'u partneriaid mewn sectorau eraill.”
Gan ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog am sefydlu comisiwn annibynnol fyddai'n ystyried yr heriau fydd yn wynebu'r alwedigaeth dros y 10 mlynedd nesaf, meddai'r Cyng. Meryl Gravell a Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru:
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am rôl y comisiwn ac yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cynnwys pawb sy'n cynnig gwasanaethau cymdeithasol yn y broses ymgynghori.”
Meddai Neelam Bhardwaja, Llywydd ADSS Cymru:
“Rydyn ni'n derbyn bod angen arweiniad cryfach, mwy ymatebol ac atebol ac yn barod i ateb yr her. Allwn ni ddim beio'r cyhoedd am fethu â deall cymhlethdod y gwasanaethau cymdeithasol, yn arbennig ynglŷn â diogelu pobl, a rhaid inni ymgysylltu â nhw ymhellach fel y byddan nhw'n ei ddeall yn well. Rhaid inni ofalu bod rhinweddau gwaith cymdeithasol yn hysbys iawn."
"Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i'r gwasanaethau cymdeithasol. Er mwyn inni symud ymlaen, rhaid inni barhau i ychwanegu at ein cynnydd a gweithio ar y cyd ar bob lefel. Rydyn ni wedi wynebu llawer o newidiadau dros y blynyddoedd diweddar ac mae llawer o newidiadau ar y gorwel. Rhaid inni ofalu ein bod yn rhannu cyfrifoldeb am y newidiadau hynny ac yn cynnig gwasanaethau i'r dinasyddion trwy'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, nid fesul seilo.”


