Cynghorau'r gogledd yn sefydlu partneriaeth newydd er effeithlonrwydd
14 Mai 2008
Mae chwe chyngor y gogledd wedi sefydlu partneriaeth uchelgeisiol newydd fydd yn arbed miliynau o bunnoedd yng nghostau'r nwyddau a'r gwasanaethau maen nhw'n eu prynu.
Er bod y cynghorau hynny'n cynnal rhai gwasanaethau lleol ar y cyd ers nifer o flynyddoedd, bydd y datblygiad arloesol yma'n eu helpu ymhellach i ofalu bod trigolion y gogledd yn cael gwerth eu harian o ran gwasanaethau.
Meddai Geraint George, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Caffael y Gogledd a Phennaeth Polisïau a Materion Perfformiad Cyngor Gwynedd:
“Mae cynghorau'r gogledd yn prynu nwyddau gwerth tua £400 miliwn bob blwyddyn. Trwy gysoni'r ffordd rydyn ni'n prynu'r nwyddau hynny a sefydlu trefniadau caffael rhanbarthol, byddwn ni mewn sefyllfa gryfach o lawer i daro'r fargen orau gyda'r rhai sy'n eu gwerthu.”
“Rydyn ni'n hyderus y bydd y bartneriaeth uchelgeisiol newydd yma'n arbed cryn dipyn o arian i bob cyngor, yn gofalu bod y trethdalwyr yn cael gwerth eu harian ac yn hwyluso ffordd fwy effeithiol o archebu nwyddau a thalu amdanyn nhw. Mae'n adlewyrchu'r ffaith bod byd llywodraeth leol yn benderfynol o ymateb i raglen 'Creu'r Cysylltiadau' Llywodraeth y Cynulliad ac arbed adnoddau trwy weithio ar y cyd.”
Bydd gan Bartneriaeth Caffael y Gogledd dîm bychan fydd yn gweithio gyda chylchoedd o swyddogion arbenigol ledled y rhanbarth er mwyn prynu rhagor o nwyddau a gwasanaethau ar y cyd.
Er mai yng Nghyngor Gwynedd mae'i swyddfa, partneriaeth ranbarthol yw hon gan y bydd chwe chyngor y gogledd yn ei hariannu ac yn ei rheoli ar y cyd trwy fwrdd rheoli.
Ar ben hynny, bydd y bartneriaeth yn cydweithio'n agos â chyflenwyr lleol ac Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad i ofalu bod cwmnïau lleol mewn sefyllfa i wneud yn fawr o'r cyfleoedd y bydd y trefniadau newydd yn eu cynnig i ennill cytundebau gan yr awdurdodau lleol.
Nodiadau i olygyddion
• Cynghorau Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam yw aelodau Partneriaeth Caffael y Gogledd.
• Mae'r bartneriaeth wedi'i sefydlu o ganlyniad i waith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Gogledd ac iddo arweinyddion a phrif weithredwyr chwe chyngor y gogledd. Mae'r bwrdd eisoes wedi sefydlu Partneriaeth Prosesu Dirwyon y Gogledd, sy'n prosesau dirwyon am droseddau parcio ar ran pedwar o gynghorau'r gogledd, yn ogystal â noddi amryw brosiectau cydweithio.
• Bydd Partneriaeth Caffael y Gogledd yn cael ei rheoli trwy fwrdd rheoli ar y cyd ac iddo gynrychiolwyr pob cyngor. Bydd y bwrdd yn rheoli tîm bychan o arbenigwyr caffael fydd yn gweithio gyda chylchoedd dros feysydd penodol i sefydlu cytundebau ar y cyd ar gyfer y rhanbarth i gyd.
• Mae trefniadau'r cynghorau ar gyfer prynu nwyddau a gwasanaethau'n amrywio'n sylweddol, boed brynu pinnau ysgrifennu a phapur, bagiau sbwriel a goleuadau i'r strydoedd neu drefnu pecynnau gofal i bobl hŷn a gwasanaethau maeth i blant. Mae'r cynghorau'n talu am adeiladu ac atgyweirio asedion megis ffyrdd, ysgolion a chanolfannau hamdden, hefyd. Mae pob un o wasanaethau pwysig byd llywodraeth leol yn gwario llawer o arian ac mae lle i arbed arian sylweddol trwy well trefniadau caffael heb effeithio ar wasanaethau.
• Targed cyntaf y bartneriaeth yw arbed tua £2 miliwn y flwyddyn yn gynyddol.
• Mae'r bartneriaeth am gydweithio â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chyrff cyhoeddus eraill yn y dyfodol.
• Deilliodd y bartneriaeth o astudiaeth gynhaliodd cwmni NQ Consulting ar ran Llywodraeth y Cynulliad. Awgrymodd canlyniadau'r ymchwil y byddai modd gwella arferion ac adnoddau'r gogledd i ddibenion caffael.


